gan Elgan Wynford Cocos (3 oed)
1. Holl drigolion bro a
bryniau, dewch i wrando hyn o eiriau,
Fe gewch hanes rhyw hen
falŵn a fu farw yn dra sydyn.
Cytgan: O mor ddrwg yr
ydyn nhw(x2), y mae aelod Plaid Llanelli
wedi byrsto balŵn ni
2. Rhedodd Norma i Lwynhendy i mofyn Gethin at y balŵn;
Dwedodd Gethin wrthi’n
union gallai ffonio’r heddlu yn syth
bin.
Cytgan: O mor ddrwg yr
ydyn nhw (x2), jesd arhoswch nes i ni
ddweud wrth ein Fuhrer Mr Gill.
3. Mofyn hers o Lôn y
Dderwen a cheffylau i’w thynnu fyny,
Y ceffylau yn llawn
mwrnin er mwyn dangos parch i’r balŵn.
Cytgan: O mor ddrwg yr
ydyn nhw (x2), terfysgwyr Dafydd Wigley a Nashis Helen Mary tŵ
4. Melys iawn bydd
gweld y Pleidwyr i gyd tu ôl i’r barrau,
Ond yn awr rhaid byw
heb hwnnw, balŵn Ukip sydd wedi byrsto.
Cytgan: O mor ddrwg yr
ydyn nhw (x2), troseddwyr gwaetha Cymru a wnaeth fyrstio ein balŵn ni.
2 comments:
Don't worry, we've got Polish plumbers and Estonian electricians here too.
Yes, the may write and speak a funny language but they are truly excellent workers, so much better than locals.
If they left a number give them a try (and ask them for English documentation if possible).
Why can't we have some Estonian politicians,so much
better than the locals.And a Polish chief executive.
Post a Comment