Monday 1 December 2014

Hanner can arlliw


O Dachwedd, y mis llwyd.
Hir a phygddu yw'r nos,
a'r niwl yn chwyrlïo'n llwyd dros y pentref bach,
dileuad, diseren, llwyted â gwiwer.
Fin nos fan hyn yn Nhrimsaran.

Ond wele! Yng nghanol llwydni'n dyddiau diflas
daw'r hen Feryl â llygedyn o heulwen i'n llonni.

Chwythed yr utgorn, caned Côr Merched y Fro!
Mi godwn ni Jerwsalem newydd sbon yno.
O fewn fframwaith y cynllun datblygu lleol
(arfaethedig)
Ac yn unol â chanllawiau a pholisïau'r Awdurdod -
Adfywiwn!
Adfywiwn yr hen Drimsaran.

Llifith jam mefus o bob polyn lamp
dan deyrnasiad ein Brenhines ddoeth,
ac ni fydd ei chleddyf yn gorffwys yn ei llaw
nes iddi godi gwesty crand a maes awyr
rhyngwladol ar dir yr hen byllau glo gerllaw.

'Co fe! Hanner Can Arlliw o WI Trimsaran,
llyfr newydd ein Harweinydd tragwyddol.

Llyfr y Flwyddyn, yn ôl y blyrb.
Ym marn pwy - ni wyddom.

Ai ffrogiau M&S neu wisg S&M yw testun y cyfarfod nesaf?
Pwy a ŵyr, ond dyma i chi chwip o lyfr.



gan Elgan Wynford Cocos


3 comments:

adarynefoedd said...

very funny but sexist as usual.

Anonymous said...

Yes, the WI is terribly sexist

gaynor said...

doniol iawn wedi gweu llun pert o flaen fy llyged peth cynta bore ma!!