Friday 16 August 2013

Modelau Rôl, Trydar a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd adroddiad pwysig gan Beaufort Research ar ran S4C, y BBC a'r Llywodraeth yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Ymchwilio i ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ar gael yn fan hyn.

Yn sicr, dylai'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus wneud mwy i sicrhau gwell dyfodol i'r iaith, ond peth braf am y gwaith hwn yw'r casgliad y gallai pob un ohonon ni wneud gwahaniaeth, er enghraifft trwy ein defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, a Twitter a Facebook yn benodol.

Dw i ddim yn ffan mawr o Facebook, rhaid dweud, ond mae gan Twitter nodweddion sydd yn addas i siaradwyr Cymraeg beth bynnag yw eu lefelau rhuglder. Mae'n gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio; mae'r iaith yn anffurfiol ar y cyfan, ac mae wastad rhywbeth diddorol yn y ffrwd. Cyfnewid newyddion, gwybodaeth, barnau personol a syniadau yw'r nod.

Wrth gwrs, mae Twitter wedi denu cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau'n ddiweddar. Cynefin trolls ac eithafwyr seicopathig yw'r argraff a gafodd y mwyafrif nad yw'n gyfarwydd â'r byd bach byrlymus 'ma, siŵr o fod.

Y gwir amdani yw mai dim ond lleiafrif pitw a moronaidd sy'n bygythu nifer o selebs a phobl adnabyddus trwy gyfrwng y Saesneg. Yn hynny o beth, mae Trydar yn union fel y byd go iawn - yn amlach na pheidio, mae eich profiad yn dibynnu ar y bobl dych chi'n cadw cwmni iddyn nhw.

Yn ôl yr ystadegau,10 miliwn o bobl oedd yn trydar ym Mhrydain yn 2012, sy'n cyfateb i ryw 16% o'r boblogaeth, ac 16% oedd y canran o siaradwyr Cymraeg yn adroddiad Beaufort Research sy'n trydar. Yn anffodus, dim ond 8% a wnaeth hynny yn Gymraeg.

Dyna beth mae'r adroddiad yn ei ddweud am broffil y siaradwyr sy'n trydar:

"Mae'r defnydd o Twitter ymhlith siaradwyr Cymraeg yn gogwyddo'n drwm tuag at yr ystod oedran iau - roedd dros chwech o bob deg o'r bobl a ddefnyddiodd Twitter yn ddiweddar yn yr arolwg rhwng 16 - 24 oed (64%), tra bod ychydig dros un o bob pump rhwng 25 - 39 (22%) a dim ond un o bob saith (14%) rhwng 40 - 59 (nid oedd unrhyw un dros 60 oed)."

Ta beth am hynny, mae yna sawl hen foi dros 60 oed sy'n trydar yn gyson. Nid yw nac @ElisThomasD yn eu harddegau, hyd y gwn i.

Cannoedd o unigolion, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill sy'n trydar yn Gymraeg, ond mae angen mwy:

"Y farn gyffredinol yn yr ymchwil hwn oedd y gallai unigolion proffil uchel chwarae rôl bwysig wrth helpu i godi proffil y defnydd o'r iaith Gymraeg o ddydd i ddydd. Awgrymodd ymchwil gan Thomas a Roberts (2011: 05) fod prinder modelau rôl gwrywaidd sy'n siarad Cymraeg ar gael i fechgyn ifanc yn benodol. O ganlyniad, gallai darparu modelau rôl ieithyddol i siaradwyr Cymraeg ifanc gael effaith bositif ar batrymau iaith y dyfodol, ac ar agweddau siaradwyr Cymraeg ifanc. Gallai safleoedd cyfryngau cymdeithasol fod yn ddull effeithiol o hyrwyddo modelau rôl ieithyddol, gwrywaidd a benywaidd."

Rhoddodd y siaradwyr a gymerodd rhan yn yr ymchwil enghreifftiau o 'selebs' sy'n trydar yn Gymraeg, gan gynnwys George North, Mike Phillips, Jamie Roberts (ond prin iawn yw eu twîts Cymraeg, yn anffodus), Alex Jones a Nigel Owens. Siomedig iawn yw'r ffrydiau nifer o actorion a phobl adnabyddus eraill sy'n ennill bywoliaeth dda diolch i S4C.

O ran y clybiau, mae'r sefyllfa'n waeth o lawer. Yr Elyrch? Popeth yn uniaith Saesneg. Y Scarlets? 89% yn  Saesneg, 7% yn ddwyieithog, a 4% yn uniaith Cymraeg. Y Gweilch? 100% yn uniaith Saesneg. Wrecsam? Saesneg yn unig.

Am ryw reswm, mae hyd yn oed S4C yn trydar yn ddwyieithog. Oes wir angen hyn?

  1. Tywydd S4C@TywyddS4C
    Thursday : Unsettled - rain spreading from the west. Heavy rain at times. Lighter rain in the east. Breezy, warm and humid. Highs of 22°C.
  2. Tywydd S4C@TywyddS4C 
    Dydd Iau : Ansefydlog - glaw yn symud o'r gorllewin. Glaw trwm ar brydiau. Glaw ysgafnach yn y dwyrain. Eithaf gwyntog, cynnes a thrymaidd.
Cewch chi ddilyn @metoffice neu @bbcweather os 'dych chi am weld y tywydd yn yr iaith fain.


Un o argymhellion Beaufort Research yw:

 Parhau i ddefnyddio dulliau marchnata iaith wedi eu targedu, er enghraifft, ymgyrchoedd sy'n rhoi hyder i siaradwyr Cymraeg llai hyderus i ddefnyddio'r iaith sydd ganddynt.

Yr hyn sydd angen yw ymgyrch genedlaethol i godi proffil y Gymraeg ar Twitter. Felly, George, Mike, Jamie, yr Elyrch, y Scarlets, Wrecsam a'u chwaraewyr, Duffy, Elis James a phawb arall sy'n trydar, beth amdani?

6 comments:

Anonymous said...

Er tegwch, mae gan CPD Wrecsam 2 ffrwd arwahan. 1 Uniaith Saesneg ac 1 uniaith Gymraeg - https://twitter.com/WrecsamFC

Anonymous said...

Un arall yw Cerys Matthews.....Saesneg yn unig y tro ddiwetahf i mi edrych. Dwi'n cofio pan roedd Moffat yn penderfynnu ar siap rygby Cymru'r dyfodol....yn le byddai'r ardaloedd (regions) newydd. Roedd pawb yn gosod eu hachos dros fod yn un o'r ardaloedd newydd gan gynnwys Llanelli wrth gwrs. Dwi'n cofio'r enwog Stuart Gallagher o Lanelli yn dweud pan ddylai ardal i fod yn Llanelli.....ac un rheswm oedd...."We are a Welsh speaking club". Mae hwnna ar ffilm o'r cyfnod. Byddai'n brad se rhyw ffordd i'w atgyfodi.

Anonymous said...

Gyda ffrwd Twitter Cymreag+Saesneg mae 'pawb' yn gweld defnydd y Gymraeg. Gyda 2 ffrwd dim ond y sawl sy'n dilyn yr un Gymraeg fydd yn ei weld.

Anonymous said...

rhain o fyd peldroed yn trydar mewn dwy iaith @bvb @juventusfc ac eraill - ac wrth gwrs tîm o uwchgynghrair Cymru @carmarthenafc Almaeneg/Eidaleg/Cymraeg yn gyfartal

Aled said...

Dw i'n cytuno y gall sêr y byd chwaraeon, cerddoriaeth, teledu, ffilm, ac eraill gwneud llawer i godi proffil yr iaith, ysbrydoli mwy i'w defnyddio hi, a normaleiddio defnydd ohoni. Credaf buasai'n dda dynodi unigolion bodlon yn 'llysgenhadon' swyddogol i'r Gymraeg, efallai am gyfnodau o chwe mis neu flwyddyn ar y tro.

Trydarodd Alex Jones yn Gymraeg ddoe i ddymuno'n dda i ddisgyblion oedd yn cael eu canlyniadau Lefel A ac mae bron pob un o'r ymatebion yn cyfeirio at iaith y trydariad yn hytrach na'i chynnwys. Dangosir hyn pa mor anymwybodol o'r Gymraeg a'r defnydd ohoni mae llawer o bobl o hyd. Ond, er bod ymatebion o'r fath yn digalonni rhywun, defnyddio'r iaith yn gyhoeddus ac yn eang yw'r unig ffordd i godi ymwybyddiaeth, newid agweddau a normaleiddio defnydd o'r Gymraeg.
https://twitter.com/MissAlexjones/status/367910142702264320

Hoffwn ychwanegu bod Twitter yn gyfrwng arbennig o dda ar gyfer defnyddio'r Gymraeg a dangos mae ein hiaith gyntaf yw hi, hyd yn oed wrth sefydliadau na sy'n Gymraeg ei hiaith. Gwelwch yr enghreifftiau isod o Tesco, Royal Mail a HSBC yn ymateb i drydariadau yn Gymraeg. Wrth gyfeirio atynt yn y trydariad, maent yn sicr o'i gweld ac yna digon hawdd iddynt yw copïo’r trydariad mewn i gyfieithydd ar-lein er mwyn deall, yn fras, ei ystyr ac ymateb iddo. Yn naturiol, mae'r ateb yn Saesneg, ond yr un mor naturiol yw gofyn yn Gymraeg. Cofiwch, gyda phob trydariad, galwad ffôn, ebost neu lythyr mae'r cwmnïau’n derbyn yn Gymraeg, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gyflogi siaradwyr Cymraeg a dyna sy'n holl bwysig i ddyfodol yr iaith - bod gwerth iddi fel iaith tŷ hwnt i'r dosbarth.
https://twitter.com/aledpowell/status/368139224735707136
https://twitter.com/aledpowell/status/357500286685818880
https://twitter.com/aledpowell/status/347668109152358400

Aled said...

Mae Vodafone hefyd yn gallu ateb trydariadau sydd yn Gymraeg.
https://twitter.com/aledpowell/status/368331668207456256

Os ydych chi am ysgrifennu i bobl gan wybod eu bod yn mynd i orfod dibynnu ar gyfieithiad peiriant, cofiwch sillafu'n gywir a defnyddio Cymraeg 'safonol' er mwyn i'r peiriant medru 'darllen' eich neges a'i gyfieithu mor gywir â phosib.