Saturday 3 August 2013

Digwyddiad cas ym Marks a Spencer Caerfyrddin

Yn sgil protest ddi-drais Cymdeithas yr Iaith yn erbyn polisi iaith M&S yng Nghaerfyrddin heddiw, galwodd rheolwr diogelwch yr heddlu a chyhuddo un o'r aelodau o ymosod.

Roedd yr aelod, dyn o Lanelli, yn aros wrth y tiliau i gael siarad â rheolwraig y siop pan gyrhaeddod dyn arall â walky-talky, a gwthio ei ffordd drwy'r rhes.

Gan fy mod i'n sefyll ychydig droedfeddi oddi wrth y til, roedd hi'n amlwg taw y dyn diogelwch oedd yn hwpo a neb arall. Gwylltiodd menyw nad oedd yn rhan o'r brotest oherwydd ymddygiad ymosodol y dyn boliog ag acen Cocni.

Cyrhaeddodd rheolwraig y siop wedyn, ac mi wnaeth hithau ei gorau glas i esbonio'r sefyllfa. Bydd cyfarfod arfaethedig o'r bwrdd ym mis Medi, meddai. Roedd y staff lleol wedi bod yn pwyso ar y cwmni i newid ei bolisi.

Ar wahân i un arwydd (Talu a Chasglu) yn ei Neuadd Fwyd, mae Marks a Spencer Caerfyrddin yr un peth ag unrhyw M&S ar ochr arall Clawdd Offa. Gallwch chi brynu Fruit and Vegetables neu fanteisio ar eu special offers. Colchester, Caergrawnt, Coventry, Caerfyrddin - does dim ots, Saesneg yw iaith M&S, ac mae eu cwsmeriaid Cymraeg yn gorfod derbyn pethau fel y maen nhw.

Chafodd y protestiwr mo'i arestio, a bydd yr heddlu'n archwilio ffilm CCTV o'r digwyddiad.

4 comments:

lionel said...

Ti'n mynd I wneud statement i'r heddlu a chwyn yn erbyn y boi security?

Cneifiwr said...

Alla i ddim bod yn dyst achos mod i'n rhan o'r grwp oedd yn protestio, ond bydda i'n cwyno i M&S. A bod yn onest, oedd y boi 'na yn gas iawn.

Anonymous said...

Blydi saeson diymhongar....a dwi yn hanner un

Anonymous said...

Beth am y fenyw a wylltiodd neu cwsmeriaid arall?