Wednesday 14 August 2013

Buddugoliaeth!

Diolch i Alun Lenny a'i gyd-gynghorwyr, Cymdeithas yr Iaith, Hazel Charles Evans a phawb arall sy wedi gweithredu, mae Marks & Spencer wedi penderfynu codi arwyddion dwyieithog yn ei siopau yng Nghymru.




Ceir erthygl dda yn Y Cymro heddiw (yma).

8 comments:

Anonymous said...

Chwarae teg. Da iawn bawb!

Efrogwr said...

Diolch i bawb weithredodd. Dyma ni am y tro, o leiaf mewn achos un cwmni (nes daw'r refit nesaf i'r siop). Onid ydy hi'n hen bryd i'n llywodraeth ddeddfu i orfodi'r holl siopau a busnesau mawr i barchu'r iaith Gymraeg? Byddai grwngach ar y dechrau, o bosib, ond mae busnes fel arfer yn parchu arweiniaud a chyfarwyddiadau eglur.

Anonymous said...

Ie, llongyfarchiadau a diolch i Hazel a'r Gymdeithas.

Wedi cyflawni mwy na mae Comisiwn y Gymraeg wedi ei wneud!

Anonymous said...

Felly, bydd yr arwyddion yn ddwy-ieithog. Da. Ond beth am y staff?

Anonymous said...

@Anhysb 0926: Chwarae teg, mae lleiafrif o staff M&S Caerfyrddin yn medru'r Gymraeg.

Y broblem fwyaf yw lle fel Morrisons. Dim cwrcyn byw o amgylch y lle sy'n siarad Cymraeg, heblaw am un neu ddau. A dydyn nhw ddim wedi'r cywiro'r arwydd am SIAMP (yn lle siampŵ), er gwaetha'r ffaith fy mod wedi dangos y gwall amlwg iddynt bedair mlynedd yn ôl).

Anonymous said...

Ydy lleiafrif o staff yn medru'r Gymraeg yng Nghaerfyrddin yn ddigon da?

Anonymous said...

Morrisons staff in Carmarthen are one of the lowest paid in there vast pool of shops. Your saying Welsh speaking people should work there. Not only would this be derimental to the Iaith but an insult to the people that speak it.


Ask why its low paid and you might get an answer to people moving away Welsh speaking or not.
Its a little like am M.P asking why people off the reservation are not working in Tesco " bed standards of pay and conditions " people dont want to work there but have to.

Anonymous said...

There are Welsh speaking people who are unemployed too and also some who are working for part-time work.