Monday 4 March 2013

Llu o bobl am ffoi rhag y Gymraeg

Diweddariad 4 Mawrth

Yn ôl y sôn cawn ni erthygl arall eto yn y Journal yr wythnos hon. Mae grŵp o wrthwynebwyr yn honni nad yw Cwmni Sbectrwm sy'n arwain y cyfarfod ar 7 Mawrth yn annibynnol, ac maent wedi datgladdu astudiaeth o Ganada sy'n dod i'r casgliad bod dwyieithrwydd yn niweidiol.

Mae yna astudiaethau ar gael hefyd sy'n dweud bod yfed potelaid o wisgi a smoco pecyn o ffags bob dydd yn llesol, hyd y gwn i.

__________________________________________________________

Er na fu'r un gair am sgandal treuliau Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin i'w weld yn nhudalennau'r Carmarthen Journal yn ddiweddar, cafodd darllenwyr y papur ffrwd o erthyglau am benderfyniad llywodraethwyr Ysgol y Ddwylan yng Nghastell Newydd Emlyn i droi'r ysgol yn un Gymraeg.

Y gwir amdani yw nad oes fawr o ddim wedi digwydd ers i'r llywodraethwyr gyhoeddi eu penderfyniad ym mis Ionawr. Y ffeithiau yw bod yr ysgol am gael gwared ar y ffrwd Saesneg dros gyfnod o bum mlynedd ar ôl ymgynghoriad eleni. Dyna i gyd.

Er gwaethaf diffyg llwyr o newyddion am y peth, mae'r papur yn gwneud ei orau glas i godi twrw ac arllwys petrol ar y tân. Yn y rhifyn diwethaf dyfynnir rhywun di-enw yn rhagweld y bydd llu o bobl yn symud o'r ardal os na fydd ffrwd Saesneg ar gael mwyach. Gallai hyn fod â goblygiadau dirfawr, meddai Mr neu Mrs Anhysbys.

A fydd rhaid i'r ymsefydlwyr gwynion harneisio eu ceirt a ffoi'n ôl i Fognor, Bolton a Birmingham rhag y brodorion cyntefig a'u hiaith chwerthinllyd? Wir?

Am ryw reswm neu'i gilydd, doedd dim lle yn y papur hyd yn hyn i rieni sy'n cefnogi'r cynllun.

Mae'r ysgol ei hun wedi trefnu cyfarfod agored gydag arbenigwyr mewn addysg ddwyieithog yr wythnos hon. Doedd dim sôn am hynny yn y Journal, wrth gwrs. Tybed a fydd Mr a Mrs Anhysbys yno?

6 comments:

Anonymous said...

Gallwn ond gobeithio......

Anonymous said...

Journal wythnso ddwethaf ar un stori ond am rheini pryderus Llandeilo parthed polisi addysg sir gar ar gyfer ysgol newydd dyffryn tywi. Codi bwganod a rhagfarn

Anonymous said...

Pam bod pryderon dilys gan rieni yn cael ei drin fel codi bwganod ac mai dim ond barn y rhieni dosbarth canol Cymraeg yn destun pryder.

Emlyn Uwch Cych said...

"datgladdu astudiaeth o Ganada sy'n dod i'r casgliad bod dwyieithrwydd yn niweidiol"

Gair da ydy "datgladdu" = make up/invent/exhume yn ôl eich chwant?

Ers pryd mae unrhyw ieithydd/seicolegydd/arbenigwr werth ei halen wedi canfod bod dwyieithrwydd yn niweidiol? Dwli o'r radd flaenaf!

Anonymous said...

Bilingualism only works when both languages are given equal status in our schools . Not where parents who opt for English Stream are told that they children will be taught separately and will not associate with the rest of the school - that's a quote from a head teacher . Welsh is becoming the language of education not the language of life , we are making Welsh not fun but a necessary "evil" which then translates to English on the yard , playing fields , Facebook , twitter etc etc Ireland made the same mistake and how strong is Gaelic now
Ps I am Welsh , welsh speaking & and voted Plaid more times that Mark James has had champagne suppers

Anonymous said...

You must have started voting at a very early age Anonymous|