Saturday 16 March 2013

Dw i eisiau byw yn Gymraeg - Safiad Sir Gaerfyrddin

Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith restr o 1,500 o enwau pobl leol sy eisiau byw yn Gymraeg i gynrychiolwyr y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin y bore yma. Daeth rhyw 50 o bobl i weld y seremoni fer, gan gynnwys Heledd Cynwal, yr actor Andrew Teilo a nifer o gynghorwyr.

Ar ôl ei hannerch swyddogol tynnodd Cadeirydd y Cyngor, Siân Thomas, ei bling a rhoi araith angerddol. Roedd rhaid gweithredu mewn argyfwng yn hytrach na sefydlu pwyllgorau newydd, meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n bwrw ei phen yn erbyn "difaterwch ac hyd yn oed atgasedd" tuag at yr iaith yn Neuadd y Sir ers blynyddoedd mawr.

Fel arall, roedd ymateb y Cyngor Sir i'r digwyddiad yn hynod o siomedig. Roedd Arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, i fod i siarad ond newidiodd ei feddwl. Fe ddaeth y Cynghorydd Keith Davies, aelod o'r Bwrdd Gweithredol â chyfrifoldeb dros yr iaith, yn ei le. Ddywedodd Mr Davies yr un gair.

Y peth pwysicaf i'r Cyngor Sir, mae'n ymddangos, oedd cuddio'r Mercs swyddogol rhag aelodau o'r Gymdeithas ar ôl i limo Leighton Andrews gael ei feddiannu gan brotestwyr yn Nhŷ Croes.


4 comments:

Anonymous said...

AR y dydd pan death Leighton I gyhoeddi ymchwiliad mean I figyrau sir gar, Mae cymdeityas yn gwneud ffyliaid o'u hyn. Duma Pamela Mae problem yn droi at ddyfodol a mudiadau arall. Gwleidyddiaeth y gorffennol dim yn helpu neb.

Anonymous said...

Mae Sian thomas wedi bod yn gynhorydd ers oes, Beth Mae hi wedi 'weithredu'?

Anonymous said...

Beth Mae gwleidyddwr wedi cynnig? Plaid yn dwell taw bai ar llafur yw sefyllfa'r iaith... Ond Beth Mae nhw wedi cynnig?

Anonymous said...

Heblaw am Sian Thomas a John Edwards bydde dim hawl gan bob plentyn yn Sir Gar gael Addysg Uwchradd Dwyiethog