Friday 29 March 2013

Noson Adloniant Y Cadeirydd

Daw blwyddyn y Cyng. Siân Thomas fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin i ben ym mis Mai.

Swydd ddigon heriol yw Cadeirydd y Cyngor, ac fel chwa o awyr iach yn y siambr roedd Siân gyda'i gwên a thinc o hiwmor yn ei llais. Trwy godi proffil y Gymraeg, mae hi wedi gosod esiampl i'r Cyngor cyfan.

Gobeithio felly y bydd cymaint o bobl ag y bo modd yn mynd i'w Noson o Adloniant i godi arian ar gyfer ei helusennau dewisedig.

Elusennau Siân yw offer arbenigol i Ysbyty Glanaman; y cartref pwrpasol i ddioddefwyr dementia yn Nyffryn Aman; a Chymdeithas Clefyd Siwgr Cwm Gwendraeth.

Cynhelir y Noson o Adloniant yn y Thomas Arms, Llanelli, ddydd Iau Ebrill 18 am 7pm.

Mae’r tocynnau, sy’n costio £12, ar gael oddi wrth Eira Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ffonio 01267 224060 neu drwy anfon neges e-bost at: HEEvans@sirgar.gov.uk. 

 
PEIDIWCH Â GALW FI'N GADEIRYDD
GALWCH FI'N GADAIR!

Uchelgais ambell un yw ennill cadair
eisteddfod, swyddogol neu genedlaethol,
awch arall cael eisteddian mewn cadair
un siglo, nid sigledig, ar derfyn dydd
a hynny ger tanllwyth o ymddiddan,
ambell gadair sy'n urddasol foethus
fel Cadair Cadeirydd y Cyngor,
yn solet, suddog, os nad esmwyth
bob tro, a beth am gadair Barnwr
un rymus ar y naw
uwch lol daearolion?

Yn iau, ar ôl symud i'r wlad
clywais am olchi 'cadeiriau'!
methu deall y byd amaethu a'r dull
o esmwytháu da, ar eu penliniau.

Ond ddoe, penderfynodd geneth
a fu fel myfi yn darbwyllo'r byd
bod rhagor i ferch na bod yn brennaidd,

ei bod AM fod yn gadair,

a beth ellwch chi ei wneud
gyda sylw mor wirion, ond
eistedd arni.

(Menna Elfyn)



No comments: