Thursday 23 June 2011

Tesco ac achos rhyfedd y wasg Gymraeg

Es i gyda'r wraig i Gaerfyrddin yn ddiweddar, ac am ryw reswm neu'i gilydd, bu'n rhaid iddi fynd i Tesco. Penderfynais i bori trwy'r cylchgronau a'r papurau newydd tra bod hi'n mynd yn ling di long trwy'r stor.

Mae 'na ddewis helaeth o gylchgronau yn Tesco - garddio, porn, gwau a gwnio, cwcan, cadw merlod, bochdewion ac ati. Ond dim yr un gair o Gymraeg. Golwg? Nage. Beth am Y Cymro? Nage. Papurau bro? Nage. Barn? Wrth gwrs nage.

Ond wele! Y Jewish Chronicle. Papur newydd gwych am wn i, ond faint o'i ddarllenwyr sy'n byw yn yr ardal 'ma?

Mae hanner o drigolion Sir Gâr yn siarad Cymraeg.

2 comments:

Teifion said...

Yr ydwyf wedi cwyno am y syllafi o rhai or geiriau cymraeg ar yr arwyddion yn Tesco, Doc Penfro sawl gwaith, we'll look into it, we'll get back to you.
Rwyn aros - digon cloi newid y rhai saesneg I betcha!

Cneifiwr said...

Y broblem yw nad ydynt yn cael penderfynu dim dros eu hunain yn lleol. Maen nhw'n "falch o gynnig cynhyrchion Cymreig", ond does dim yn Tesco Aberteifi sy'n dod o fewn cwmpas o 50 milltir.

Diolch am eich sylwadau.