Sunday 19 June 2011

Llanegwad - Penbleth yr 'Annibynnwyr'

Cynhelir is-etholiad yn rhanbarth Llanegwad, Sir Gâr, ddydd Iau nesa' ar ôl i'r cyn-gynghorydd (annibynnol) orfod ymddeol oherwydd salwch. Mae 'na ddau ymgeisydd, sef Clive Pugh (annibynnol) a Mansel Charles (Plaid Cymru), a chafodd y ddau ohonynt ddatgan eu syniadau ar dudalen llythyrau'r Carmarthen Journal yn ddiweddar.

Ardal wledig fawr yng nghanol y sir yw Llanegwad sy'n ymestyn o Frechfa i Bontargothi gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Bu'n ddidorol cymharu'r ddwy lythyr. Dau ddyn gyda gwreiddiau dwfn yn yr ardal, does fawr o ddim i'w gwahaniaethu ar y wyneb, heblaw am eu hagweddau gwleidyddol.

Doedd dim sôn yn llythyr Clive Pugh am unrhyw bolisi, a llwyddodd ysgrifrennu llythyr hir am etholiad heb ymrwymiad am ddim. Roedd yn falch o fod yn 'annibynnol', meddai, gan fod yr Annibynnwyr yn penderfynu popeth eu hunain o fewn y sir (ymosod ar Lafur, partnerau'r "Annibynnwyr", tybed?).

Fe addawodd Mansel Charles (ymgeisydd y Blaid) ymladd dros ysgolion yr ardal, gwrthwynebu cynlluniau dadleuol i godi ffermydd gwynt ac ymgyrchu dros fesurau arafu traffig ar yr A40.

Pwy fyddech chi'n ei ddewis?

Ac dyma benbleth yr Annibynnwyr. Y gwir yw nad ydynt yn annibynnol o gwbl. Mae'n rhaid iddynt wneud yr hyn y mae Meryl Gravell a'i chriw yn ei ddweud y dylent ei wneud, doed a ddelo. Er enghraifft, mae'r Cyngor Sir eisiau cau Ysgol Brechfa. Beth mae arweinydd y cyngor yn ei ddweud am hynny?

"Mae rhai aelodau (h.y. cynghowyr) yn arddangos gwendid eithafol ac yn barod i wrando ar bobl sy'n protestio yn erbyn cau ysgolion", meddai Meryl. Bant â'r ysgolion bach, felly, ac mae'r "Annibynnwyr" yn gorfod cefnogi pob dim sy'n dod o'r bós yng Nghaerfyrddin.

Mae'r cyngor yn cau ysgolion, canolfannau dydd ar gyfer hen bobol, llyfrgelloedd ac ati. Rhaid iddyn nhw arbed yn rhywle, mae'n wir, ond maent yn arllwys arian mawr i mewn i brosectiau newydd megis ali fowlio yng Nghaerfyrddin ar yr un pryd.

Trist yw dweud bod ein cyngor sir yn tanseilio ein cymunedau gwledig a'r iaith Gymraeg trwy ei bolisiau.

Y gair olaf i Ffred Ffransis sy'n siarad mor huawdl am yr effaith o gau ysgolion bach.

No comments: