Sunday 26 June 2011

Cofio Mynydd Epynt

Dathlwyd Dirwnod y Lluoedd Arfod am y trydydd tro ddoe, ac erbyn hyn mae Help for Heroes wedi codi dros £100 miliwn o bunnoedd i helpu milwyr a’u teuluoedd. 

Yn anffodus, mae hen ddigon o dystiolaeth hefyd bod nifer fawr o bobl yn Irac wedi cael eu cam-drin yn rhywiol neu’n gorfforol gan rai o’n harwyr ni. Faint o’r arian mawr 'na fydd yn mynd atyn nhw a’u teuluoedd? Dim ceiniog, am wn i.

Mae milwreiddio ein cymdeithas yn cynyddu. Fe gawn ni gofeb newydd i ryw grŵp neu’i gilydd yn rhywle bob yn ail fis; mae paredau ymhobman a thywysogion yn eu gwisg ffansi, digwyddiadau i godi mwy o arian yn ein tafarnau a rhaglenni ar y BBC. Etifeddiaeth Tony Blair, wrth gwrs.

Wrth i bobl Prydain ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog, aeth grŵp bach o Gymdeithas y Cymod i Fynydd Epynt er cof am y bobol ddiniwed a laddwyd gan awyrennau di-beilot yn ogystal â’r chymuned fach Gymraeg oedd yn arfer byw ac yn ffermio yno.

Cymerodd Swyddfa’r Rhyfel drosodd ym 1940 a chollodd 400 o bobl eu cartrefi, ffermydd, ysgol fach a chapel.  Mae 71 mlynedd wedi mynd ers hynny, ac mae’r fyddin yno o hyd. Chafodd y gymuned erioed dod yn ôl.

Mae’n iawn ein bod ni’n cofio’r milwyr, ond dylen ni beidio ag anghofio’r rhai eraill sy wedi dioddef cymaint, weithiau o dan ddwylo'r fyddin Brydeinig.

No comments: