Es i gyda'r wraig i Gaerfyrddin yn ddiweddar, ac am ryw reswm neu'i gilydd, bu'n rhaid iddi fynd i Tesco. Penderfynais i bori trwy'r cylchgronau a'r papurau newydd tra bod hi'n mynd yn ling di long trwy'r stor.
Mae 'na ddewis helaeth o gylchgronau yn Tesco - garddio, porn, gwau a gwnio, cwcan, cadw merlod, bochdewion ac ati. Ond dim yr un gair o Gymraeg. Golwg? Nage. Beth am Y Cymro? Nage. Papurau bro? Nage. Barn? Wrth gwrs nage.
Ond wele! Y Jewish Chronicle. Papur newydd gwych am wn i, ond faint o'i ddarllenwyr sy'n byw yn yr ardal 'ma?
Mae hanner o drigolion Sir Gâr yn siarad Cymraeg.