Monday 10 November 2014

Dai Trelech

Penderfynwyd dileu y darn hwn, ond cewch ddarllen y sylwadau isod.

8 comments:

Alun Lenny said...

S’ain credu bod neb ar y cyngor yn cofio Dai Trelech yn hirach na fi – o 1974 tan nawr. Mynd fel cyw-ohebydd y Journal i gyfarfodydd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, nôl yn nyddiau SS Bowen, Wil Carwe, Tomi Richards a’r gweddill. Dai yw’r olaf o’r genhedlaeth yna, pan oedd aelod annibynnol yn ymateb i neb ond pobol ei ardal. I fi, sy’n ei gofio ‘back in the day’, mae ei hirhoedledd yn rhyfeddod – yn bont gydag oes sydd wedi hen fynd heibio. Beth bynnag y dadleuon am sefyll etholiad yn 88 oed, rwyn falch o fod wedi cael y cyfle i ddod i’w ail-adnabod – a’i adnabod yn well, yn wir – fel cyd-aelod o’r Pwyllgor Cynllunio. Tynnu coes yn gyson, yn ogystal ac anghydweld ar ambell fater. Ar ddechrau’r cyngor presennol, pan oedd y tyndra gwleidyddol ar ei eithaf, fe wedodd Dai wrthai “Cofio nawr, os allai fod o help, rho wbod.” Mae’n siŵr y bydd yn cael anrhydedd i nodi ei ymddeoliad, ond – fel yn achos Dai Llanilar – yr anrhydedd mwyaf i unrhyw Gymro yw cael ei adnabod yn ôl enw ei fro enedigol.

Cneifiwr said...

Diolch Alun, a diolch am f'atgoffa bod unigolion yn bwysicach o lawer na phleidiau a rhaniadau gwleidyddol.

Anonymous said...

nagoes peryg ein bod yn rhy sentimental am yr "cynghorwr hen a hen ffashwn" ma, rwy'n siwr bod Dai Trelech yn ddyn digon net, ond y gwir yw mae 'r cyngor yn llawn unigolion sy'n gwneud dim o werth iw hardaloedd i greu gwaith, annog buddsoddiad ac yn dala mlaen i'r bleidlais drwy rhoi "planning" i bobl. mae nifer o bobl fel hyn eistedd ar y ffens fel brain yn rhiw Jal, ac yn "stagnetio" democratiaeth lleol a llethu y cyngor. Gore gyd pan ewn nw gyd ond y broblem yw denu pobl ifancach, deinamig, galluog sydd a syuniadau radical i cymryd ei lle. plus ca change etc etc fel wedodd sioni winwns

Richard Powell said...

I hope Elgan Wynford will be a regular contributor to the blog, and that he will not want for suitable subjects. Gwasanaeth gwerthfawr i ddysgwyr, fel fi.

Wyres Dai Trelech said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Cneifiwr said...

Diolch am eich sylwadau, "Wyres i Dai Trelech". Gan fod eich neges yn cynnwys manylion personol am iechyd y cyn-gynghorydd, rwyf wedi penderfynu ei dileu.

Bu'n amlwg yn y cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd bod eich Tad-cu'n uchel ei barch, ac fe fydd cyfle arall i dalu teyrnged iddo'r wythnos nesaf.

Wedi dweud hynny, roedd ei benderfyniad i sefyll yn yr etholiadau diwethaf yn gamgymeriad. Dylid ymddeol yn 75 oed bod yn orfodol i bob cynghorydd.



J Towyn Jones said...

Fel un sy'n ymwybodol ac yn werthfawrogol iawn o allu a chyfraniad effeithiol Dai Trelech dros y blynyddoedd, nid oes ond angen nodi fy mod yn siarad dros laweroedd. Y prawf o hynny yw fod gan etholwyr Trelech ddigon o barch, hyder ac ymddiriedaeth ynddo i'w ethol yn ddemocrataidd gyda mwyafrif llethol - dro ar ol tro.
J. Towyn Jones, Caerfyrddin.

Wyres Dai Trelch said...

Hoffwn ddiolch i chi J.Towyn Jones am y geiriau caredig. Mae'n rhaid cyfaddef bu dagrau yng nghartrefi nifer o'r teulu ddoe ar ol y geiriau a fu'n beirniadu gwaith Dada. Dwi ddim yn ymddiddori yn y byd gwleidyddol, ond wedi cael fy nghodi i barchu'r genhedlaeth hyn.