Friday 20 September 2013

Y Mentrau, y Cyngor Sir a'r Gweithgor

Faint o engyl all sefyll ar glopa pin, a pha mor ddu yw cath ddu? Yn ei hanfod, dyna'r ddadl ffyrnig rhwng Mentrau Iaith Sir Gâr, y Cyngor Sir ei hun a chadeirydd Gweithgor y Cyfrifiad, Cefin Campbell, am gyllid y mentrau.

Yn y rhifyn newydd o Golwg mae Alun Gibbard yn rhoi cynnig ar ddilyn yr ymryson i'w wraidd. Fel mae Alun yn esbonio, y cwestiwn yw a oedd arian wedi'i neilltuo ar gyfer Mentrau Iaith yn cael ei ddefnyddio i dalu am waith y gweithgor?

"Mae arian wedi cael ei roi naill ochr ar gyfer hynny. Ac unwaith eto, dyw e ddim yn gywir i ddweud bod arian wedi ei dynnu o'r Mentrau er mwyn ei roi i'r gweithgor", dywedodd Cefin Campbell wrth Golwg. 

Roedd ateb Cefin yn ddigon clir, felly.

Wrth iddo siarad â Golwg, cyhoeddodd adran wasg y cyngor ddatganiad arall er mwyn "mireinio ar y manylion":

Yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad 2011 ym mis Rhagfyr 2012 cytunodd Bwrdd Gweithredol y Cyngor i neilltuo’r arian oedd wedi ei dorri o’r Mentrau er mwyn cefnogi gwaith ymchwil pellach ac i fynd i’r afael ag argymhellion Gweithgor y Cyfrifiad. Nid oes unrhyw ymrwymiadau wedi’u cytuno i’r arian hwn hyd yma.

Mae hynny'n ddigon clir hefyd.

Ond eto, er gwaetha eglurder yr atebion, mae'r niwl yn parhau. Ac dw i ddim yn credu am eiliad fod Cefin Campbell am gamarwain y cylchgrawn.

No comments: