Diolch i'r Cynghorydd Arfon Jones am wneud ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i bob un o'r
22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i ofyn dau gwestiwn syml:
- Faint o weithwyr mae'r Cyngor yn eu cyflogi ar hyn o bryd?
- Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi eu dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol?
Gallwch chi ddarllen yr atebion ar flog Plaid Wrecsam (yma). Er syndod i neb yn Sir Gâr (9,004 aelod o staff, gyda llaw), doedd y wybodaeth ddim ar gael, a chafodd y cais ei wrthod.
Yn ôl Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Cyngor (sydd hefyd yn enwog fel y Swyddog Monitro), mae'r awdurdod wedi bod wrthi'n paratoi awdit manwl o sgiliau iaith ei staff. Dyma'r canlyniadau:
| 
Adran | 
Nifer o weithwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg | 
Gweithwyr â sgiliau siarad Cymraeg | 
Gweithwyr â sgiliau ysgrifennu Cymraeg | 
| 
Y Prif Weithredwr | 
281 | 
222 (79%) | 
185 (65.8%) | 
| 
Addysg a Gwasanaethau Plant | 
613 | 
473 (77%) | 
351 (57.2%) | 
| 
Adfywio a Hamdden | 
347 | 
238 (68.9%) | 
175 (50.4%) | 
| 
Adnoddau | 
351 | 
253 (72%) | 
185 (52.7%) | 
| 
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai | 
552 | 
367 (66.4%) | 
261 (47.2%) | 
| 
Gwasanaethau Technegol | 
317 | 
239 (75.4%) | 
184 (58%) | 
| 
Eraill | 
45 | 
29 (64.4%) | 
22 (48.9%) | 
| 
Cyfanswm | 
2506 | 
1821 (72.7%) | 
1363 (54.4%) | 
Dyma ffigyrau sy'n hynod o bositif o'u cymharu â'r sefyllfa yn 2009-10. Yn ei adroddiad blynyddol i'r hen Fwrdd yr Iaith, dyma oedd ffigyrau swyddogol y Cyngor dair blynedd yn ôl:
Nifer a % y staff sy’n gweithio i’r Cyngor sy’n gallu siarad Cymraeg (ac eithrio athrawon a staff ysgolion):
Prif Weithredwr                                  178 (314)    57%
Adnoddau                                           226 (425)    53%
Adfywio a Hamdden                           193 (470)     41%
Gofal Cymdeithasol a Thai                   822 (1616)   51%
Addysg a Gwasanaethau Plant             719 (3647)  20%
Gwasanaethau Technegol                     280 (1009)  28%
Awdurdod cyfan                                2418 (9213)  26%
Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o staff heb gwblhau'r arolwg eleni, ond o ystyried i'r nifer o gwynion i Adran Addysg y Cyngor ddangos gostyngiad o 563% y llynedd, mae pob dim yn bosib yn Sir Gâr.
 
5 comments:
Beth yn union yw sgiliau siarad Cymraeg? Siarad yn eithaf rhugl neu jest dweud "borah" dar"?
Beth yn union yw Nepotiaeth.
O diawl! Mae'r brigad sillafu, treiglo ayyb wedi ymddangos.
Fy pwynt oedd, ai sgiliau Iaith yw. Jest y Gallu I ateb y ffon yn gymraeg ac wedyn ymddiheuro am beidio Gallu parhau yn y gymraeg, ynte actually Gallu cynnal sgwrs a rhoi gwasanaeth
Pwynt da. Diolch am gysylltu.
Post a Comment