A yw Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd ati o ddifri i weithredu strategaeth i ddiogelu'r Gymraeg?
Ddwy flynedd ers Rali'r Cyfrif, a naw mis ers i Gyngor Sir
Caerfyrddin benderfynu ar Strategaeth Iaith newydd bydd Elinor Jones,
Uwch Siryf Dyfed yn agor y cyfarfod agored ble bydd:
- cyfle i glywed y manylion diweddaraf y gwaith ar y strategaeth
iaith gan Cyng. Cefin Campbell, Cyng. Calum Higgins; ac ymateb
Cymdeithas yr Iaith gan Sioned Elin;
- sesiwn hawl i holi;
- cyfle i bawb fod yn rhan o benderfyniad pwysig: a yw Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cymeryd y Gymraeg o ddifrif a beth sydd angen i ni wneud?
10.30-1.30, Sadwrn 17eg Ionawr 2015 Neuadd San Pedr Caerfyrddin.
Mae hyn yn bwysig, felly dewch yn llu!
Blwyddyn newydd dda i chi gyd.
No comments:
Post a Comment