Thursday 7 February 2013

Cynhadledd yn Rhydaman: Y Gymraeg a'r Cyfrifiad

Cynhadledd:  Y Gymraeg a'r Cyfrifiad, Dydd Iau, Mawrth 14eg, 2013
Gwesty'r Mountain Gate, Tycroes, Rhydaman, 
9:30 – 4 o'r gloch

Bydd y gynhadledd yn cynnig fforwm i drafod, dadansoddi a dehongli canlyniadau'r cyfrifiad o safbwynt yr iaith.

Dangosodd y canlyniadau fod heriau mawr yn ein hwynebu; yn wir bydd y ddegawd nesaf yn dyngedfennol o safbwynt diogelu dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn ein cymunedau. Fel grwp ymbarel yn cynrychioli amrywiaeth eang o fudiadau sy'n  hybu a hyrwyddo'r Gymraeg ar lawr gwlad teimlwn ddyletswydd i ysgogi trafodaeth agored a chreadigol er mwyn ymateb i 'r sefyllfa hon. 

Trwy ddwyn ynghyd arbenigwyr, gwleidyddion ac ymarferwyr profiadol yn y maes, ein nod yw trafod yr heriau sy'n ein hwynebu ac i osod seiliau ar gyfer gweithredu'n gadarnhaol ac ymarferol er lles y Gymraeg.

Prif siaradwr y dydd  fydd Leighton Andrews, AC a Gweinidog dros y Gymraeg

Siaradwyr sydd eisoes wedi cadarnhau : 

Meri Huws, Comisynydd y Gymraeg
Elin Haf Gruffydd Jones, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Aberystwyth
Heini Gruffudd, Rhieni dros Addysg Gymraeg
Ellen ap Gwyn, Arweinydd Cyngor Ceredigion
Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd
Dr Martin Rhisiart, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg


Noddwyd y Gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

DIWEDD


Am fanylion pellach cysylltwch â: Gaynor Jones  ar 07854 171165 / gaynorjones@dathlu.org

3 comments:

Anonymous said...

does neb o'r cyngor sir, oherywdd heddiw mae'r gwahoddiad wedi cyrraedd i rhan fwyaf o'r cynghorwyr.

Cneifiwr said...

Da yw clywed bod y post wedi cyrraedd Caerfyrddin o'r diwedd. A fydd Kevin Madge yn annerch y gynhadledd ac esbonio pam nad yw'r iaith yn bwysig i'r Cyngor Sir?

Emlyn Uwch Cych said...

Mae Cymraeg yr hen Kev yn iawn pan fydd e'n gwneud ei orau.

Gobeithio fydd e yno i chwifio'r faner dros y sir lle mae'r nifer fwyaf o Gymry Cymraeg yn byw o hyd.