Friday 16 November 2012

Llongyfarchiadau i Christine Gwyther!

Llongyfarchiadau mawr i Christine Gwyther am guro ei record ei hun am fod y gwleidydd Llafur sy wedi colli mwy o etholiadau nag unrhywun arall mewn gwlad lle mae pob twpsyn sy'n gwisgo rosette coch bron yn sicr o ennill. Mae hynny'n dipyn o gamp.

Dyma beth ddwedodd Dewi Prysor yn Limrigau Prysor (2003):

Roedd gan Christine Gwyther gwningan
Ond fe'i collodd yng ngwallt Rhodri Morgan
A cyn cyfri i dri
Roedd y bwni fach ffri
'Di lluosi i ddwy fil ar hugian!


7 comments:

Anonymous said...

A fuoch chi'n prynnu'r 'Y Cymro' heddiw Cneifiwr?

Anonymous said...

Oh i fod yn vegitarian mewn byd carnivours.

Anonymous said...

Poor christine, just too well known as a party wet rag doll. shame that there was no real worthy candidate but the tory was at least earnest and politically without negative form.

Emlyn Uwch Cych said...

Ddylsai John Davies, Cwmbetws wedi dod mas fel Anibyn. Ma mwy o allu da fe na sy gan y Tori Salmon na.

Ond wedi dweud 'ny, rwy'n nabod sawl ffermwr Pleidgar wnaeth dal eu trwynau i foto Tori am y tro cynta yn eu bywydau.

#etholiadtwp

Cneifiwr said...

Naddo - phrynais i mo'r Cymro heddiw. Pam?

Anonymous said...

Cneifiwr,

Achos dwi'n byw yn CNE ac yn ceisio dyfalu pwy ydych. Wedi siarad a dyn am damaid bach o'r blaen a meddwl efallai taw ef oedd yn Cneifiwr. Roedd tipyn o ben arno ac yn gefnogol i'r Gymraeg. Ddim yn gwybod ei enw. Gwelais ef yn prynnu'r Cymro ddoe. Dim ond diddordeb personnol. Dim probs a pob hwyl.

Anonymous said...

Siwr ceiff Christine ei hanfon draw i Lanelli os na wneith Keith wella'n ddigonol. fersiwn y blaid lafur o Groundhog Day - Christine Gwyther yn sefyll lecshwn