Friday, 19 July 2013

Protest 'Pants' yng Nghaerfyrddin - Diweddariad

Mark Spencer a'r pants
 [Diolch i Ffred Ffransis]
_____________________________________

Dewch i G'fyrddin yfory (Gorffennaf yr 20fed) am 12pm i ddweud wrth Marks & Spencer nad yw eu polisi iaith yn dderbyniol.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw ar M&S i barchu’r Gymraeg ers blynyddoedd.

Bedwar mis yn ôl gwnaeth M&S ail-frandio’r siop yng Nghaerfyrddin a dweud y byddai’n fodel i Gymru gyfan. OND, er i Gymdeithas yr Iaith gyfarfod â’r rheolwyr droeon a llythyru gyda nhw – mae’r siop ar ei newydd wedd yn uniaith Saesneg. Methiant & Siom yw agwedd M&S tuag at eu cwsmeriaid Cymraeg.

Barod, Mrs Evans?

1 comment:

Efrogwr said...

Diolch i CyG am drefnu hyn. Gobeithio y bydd criw sylweddol yno. Unwaith eto yn dangos yr angen am ddeddwriaeth i orfodi cwmniau mawr a chanolfaint barchu siaradwyr Cymraeg yng Nghymru!