Thursday 18 July 2013

Cymraeg yn hanfodol

Cyflwyno Siarter Sir Gâr
Roedd pawb yn gwenu - wel, mi wnaeth Ffred Ffransis ei orau glas o dan yr amgylchiadau - wrth i Gymdeithas yr Iaith gyflwyno Siarter Sir Gâr i Kevin Madge (Arweinydd y Cyngor) a Mair Stephens, sydd bellach yn gyfrifol dros yr iaith yn Neuadd y Sir, ychydig o wythnosau yn ôl.

Mae'r Siarter yn galw ar y Cyngor i symud tuag at gyflawni ei waith trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel mae'n digwydd, bydd nifer o swyddogion uwch sy ddim yn siarad Cymraeg yn ymddeol eleni. Dyma gyfle da i ddangos bod y Cyngor yn newid ei agwedd trwy Gymreigio ar y lefel uchaf, fe fyddech chi'n meddwl. Er enghraifft, mae'r Cyngor yn chwilio am Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Technegol newydd ar hyn o bryd (cyflog £111,000-£119,000).

Os gwnewch chi gais am y swydd hon, mae 'na restr hir o sgiliau hanfodol, gan gynnwys medru siarad Cymraeg - print mân: dim ond hyd at "Lefel 2", a pheidiwch â phoeni os nad ydych yn siarad yr un gair o Gymraeg -"Darperir hyfforddiant a chymorth er mwyn cyrraedd Lefel 2 cyn pen 6 mis ar ôl dechrau'r swydd".

Beth yn union yw Lefel 2? Mae'r Cyngor yn esbonio:

Ystyr hyn yw:

• Yn gallu cyfarfod â phobl yn y gwaith a'u cyfarch
• Yn gallu cyflwyno cyfarfodydd yn Gymraeg
• Yn gallu ynganu enwau llefydd lleol ac enwau prif lefydd Cymru yn Gymraeg
• Yn gallu ynganu geirfa allweddol maes Awdurdod Lleol yn Gymraeg
• Yn gallu deall sgwrs syml yn Gymraeg ac yn gallu cyfrannu at hynny.

Mewn geiriau eraill, cewch chi gwpwl o wersi i ddysgu sut i ynganu "Bore da", "Llanelli" (mae gallu dweud Machynlleth a Rhandirmwyn yn perthyn i Lefel 3, mae'n debyg), "Croeso",  "Cyngor Sir" a "Diolch yn fawr".

Beth am ddeall a chyfrannu at sgwrs syml? Mae hynny'n swnio'n reit uchelgeisiol. Dyma sgwrs syml:

A. Bore da. Sut dych chi heddiw?

B. Bore da. Iawn, diolch. A chi?

A. Wedi blino. Hwyl!

B. Hwyl!

Ac wedyn cewch chi dystysgrif i ddangos bo' chi wedi cwrdd â'r meini prawf ac yn siarad Cymraeg, achos bod gallu siarad Cymraeg yn hanfodol.

Man a man i chi roi trwydded yrru i rywun sy'n gallu gwahaniaethu rhwng car a bws.




.

10 comments:

Anonymous said...

Ti'n gallu darllen?

Mae'r gallu i cyfarfod â phobl yn y gwaith a'u cyfarch a'r gallu i cyflwyno cyfarfodydd yn Gymraeg ddim ar lefel isel.

Cneifiwr said...

Ydw, diolch. Mwy na thebyg, mae pob un o'r swyddogion di-Gymraeg wedi cyrraedd 'Lefel 2'. Ydyn nhw'n gallu cyflwyno cyfarfod yn Gymraeg? Ar wahan i ddweud "Bore da" cyn troi i'r Saesneg?

Anonymous said...

cachu tarw Cneifiwr Surely we should be trying to recruit the best man for the job not whether he can speak Welsh . We dont have all the talent within Wales , we export the best to England so yes it would be a bonus if we could find a Welsh speaker but it is not essential

Cneifiwr said...

Rwtsh llwyr. Sut mae gwledydd llai'n ymdopi? Ydy Gwlad yr Ia, Luxembourg ac Estonia yn mewnforio eu gweision sifil?

Anonymous said...

Yn gywir Cneifiwr. A ydi Ffrainc er emgraifft yn dewis gweision sifil syn siarad saesneg ond yn methu siarad ffrangeg? Mae'r holl beth yn wallgo' yn y wlad 'ma.

Anonymous said...

Is the new sign to be placed on Severn Bridge/Pont Hafren- Wales -opportunities for Welsh Speakers Only! - English Speaking Welshmen & women please emigrate out , no chance of getting a job - Sounds a bit like The Nuremberg Laws - eliminate all those who do not conform - what next yellow star badges for English speakers - The English Knot
Ps I am alright Jack I speak Welsh but I do not agree with this one eyed view

Anonymous said...

Mark james would be kicked out then???

Nothing but language apartheid!

Anonymous said...

mark james - yes - kick him out

We are importing second rate English talent.

Surely unless the candidate is EXCEPTIONAL is should be Welsh Jobs or Welsh people!

Cneifiwr said...

In fairness, I should point out that Mr James is in fact Welsh, if memory serves me right from Merthyr.

gaynor said...

Well we used to have quality council officers in camrathenshire who did speak Welsh and knew the area and came from the area not fly by night careerists lining their own pockets. By the way Enlgish KNot is that an English spin off of Knots Landing? - I think you meant English Not, something which has never happened in wales or ever will.