Saturday 20 July 2013

Gweithgor y Cyfrifiad

Yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad sefydlodd y Cyngor Sir weithgor trawsbleidiol i ystyried sut y gallai'r Cyngor a'r gymuned ehangach fynd i’r afael â’r dirywiad yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Mae'r grŵp yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gyfrannu drwy naill ai ysgrifennu at Gweithgor y Cyfrifiad, Polisi a Chynllunio Cymunedol, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP neu anfon e-bost at IaithGymraeg@sirgar.gov.uk erbyn 31 Gorffennaf gydag unrhyw  syniadau a sylwadau. 

O'r hyn rwy'n ei ddeall, mae'n debygol y bydd y gweithgor yn ymestyn y dyddiad cau, ond mae'n hynod o bwysig bod cymaint o bobl ag sy'n bosib yn cyfrannu eu syniadau at y grŵp.

Ceir nifer o syniadau ac awgrymiadau ymarferol yn Siarter Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith (dolen yma), ond gallwn ni fod yn sicr bod gan ddarllenwyr y blog yma ragor o syniadau da. 

Er enghraifft, beth am ddefnyddio cytundebau 106 a grantiau i sefydlu cronfa addysg Gymraeg er mwyn ariannu pobl ifanc a phobl mewn gwaith sydd am wella eu sgiliau Cymraeg?

4 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Beth am ddynodi mwy o swyddi y Cyngor Sir yn swyddi lle mae'r Gymraeg yn anghenrheidiol.

Cneifiwr said...

Cytuno yn llwyr, ac mae rhaid iddyn fod yn onest hefyd yn hytrach na dynodi swyddi'n "Cymraeg yn hanfodol" cyn ychwanegu mewn print man y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwersi ar lefel 2 (h.y. lefel dechreuwyr pur). Mewn geiriau eraill maen nhw penodi pobl ddi-Gymraeg i swyddi lle mae'r iaith yn angenrheidiol yn swyddogol. Ticio bocsys, fel arfer.

Anonymous said...

I see from links on this web site mettings at Carmarthenshire Council are online.
I went to watch these webcasts is Carmarthenshire paying for a makeup artist some males even have a diffrent shade of hair.

Anonymous said...

Plaid Gwersyllt 9.54

Syniad da iawn.