Wednesday 22 February 2012

Tynged yr Iaith - gwersi Cymraeg

Roedd Angharad Tomos wedi cael llond bol ar Dynged yr Iaith ar ôl wythnos o ddathlu hannercanmlwyddiant darlith enwog Saunders Lewis. Byddai sawl un yn cytuno, siŵr o fod, ond y cwestiwn pwysicaf ydy, gaiff yr holl godi-ein-dwylo-mewn-anobaith effaith tymor hir neu beidio?

Un o'r cyfraniadau mwyaf diddorol oedd rhaglen Adam Price ar S4C. Wrth gwrs, byd aml-gyfryngau a swnllyd sydd ohoni'r dyddiau hyn, lle mae cymaint o leisiau'n cystadlu am ein sylw. Mae yna berygl yr aiff ei neges ar goll.

Arolwg eang iawn ei gwmpas oedd y rhaglen hon: y berthynas rhwng yr economi a'r iaith; y diffyg o dai fforddawy; hanes ardal Rhydaman; addysg; statws yr iaith; Cymraeg i Oedolion a'r ymdrech i gymhathu pobl ddi-Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith - pob un yn destun diddorol a chymhleth, ond awn ni i'r afael â'r dysgwyr a'r system addysg.

Un o'r cyfrannwyr mwyaf profoclyd oedd Heini Gruffudd. Mae rhyw 18,000 o bobl wrthi'n dysgu Cymraeg dros Gymru fel oedolion bob blwyddyn ar gyfartaledd, ac 8,000 o'r rhain yn eu blwyddyn gyntaf. Erbyn blynyddoedd tri a phedwar, mae'r niferoedd i lawr i ryw 1,000, a'r rhan fwyaf ohonynt dros 60 oed. Ychydig iawn o'r 18,000 sy'n croesi'r bont ac yn mynd yn rhugl, meddai. Ac mae'n gwbl iawn.

Fel y dywedodd Heini Gruffudd, "ryn ni'n dathlu Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol [a'r ffaith bod rhywun wedi meistroli'r Gymraeg], ond dylai pawb sy'n mynd trwy'r system gyrraedd y lefel yna."

Mae'n debyg nad yw'r rhan fwyaf o'r Cymry Cymraeg yn gwybod fawr o ddim am gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac fel pob dim arall sy'n ymwneud â'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n gymhleth ac yn anniben. Llwyth o gyrsiau sydd ar gael, ac mae bron a bod cynifer o sefydliadau ac asiantaethau sy'n eu darparu nhw.

Ceir cyrsiau dwy awr yr wythnos a chyrsiau "dwys" pedair awr yr wythnos (yr enwog 'Wlpan'), yn ogystal â chyrsiau ar gyfer rhieni, cyrsiau ar gyfer rhieni sydd â phlant bach, Cymraeg yn y Gweithle, ac ati. Caiff y cyrsiau dwy awr eu rhedeg gan y cynghorau siroedd fel rheol, tra mai'r prifysgolion sy'n cynnig y cyrsiau dwys. Mae bron a bod pob sir yn dilyn cwrs gwahanol, e.e. yn yr ardal hon mae dechreuwyr yn Llandysul yn dilyn cwrs gan Gwmni Acen, tra mai yng Nghastell Newydd Emlyn cwrs CBAC yw dewis y Cyngor Sir. Mae ffurfiau ieithyddol a chynnwys y cyrsiau'n hollol wahanol.

Afraid dweud, wrth gwrs, bod angen ar fyddin fach o swyddfeydd a swyddogion i gefnogi'r cwilt lliwgar hwn.

Cymharodd Heini Gruffudd Gymru â Gwlad y Basg lle mae dysgwyr yn cael 10 awr o wersi'n wythnosol.

Yn yr Almaen mae'r llywodraeth yn talu am gyrsiau 15 awr yr wythnos dros bedair blynedd(!) i fewnfudwyr er mwyn iddynt ddysgu am hanes y wlad, ei gwleidyddiaeth a'i diwylliant yn ogystal â'r iaith, ac mae pob myfyriwr yn gorfod sefyll arholiadau heriol bob blwyddyn.

O fewn cyfnod byr gall y ddwy wlad gynhyrchu siaradwyr rhugl ac hyderus. Yng Nghymru fach, trist dweud, mae'n debyg bod pawb wedi dod ar draws pobl sy'n methu â sgyrsio yn Gymraeg wedi mynychu "dosbarth nos" am 10 mlynedd.

"Dewch i Gymru os dych chi eisiau system dysgu iaith sy'n methu," meddai Heini Gruffudd. "Mae'n rhaid rhyddhau pobl o'r gwaith a thargedu pwy ydyn ni'n ei ddysgu."

Yn anffodus, dyw'r sefyllfa yn ein hysgolion ni ddim yn well o ran dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae yna eithriadau wrth reswm, ond mae'r mwyafrif yn mynd trwy'r system heb allu dweud llawer mwy na "rydw i'n hoffi coffi".

Neges bwerus a phwysig i ddyfodol Cymru yw un Adam Price, ac o ystyried y ffigurau diwethaf o Fwrdd yr Iaith, mae'n bwysicach byth ein bod yn gwrando ac yn gweithredu arni.

2 comments:

Anonymous said...

Ie, mae'n rhaid fod o ddifri ynghylch faint o oriau sydd angen er mwyn dysgu iaith. Dywedir 300 fel arfer am cynnal sgwrs bob dydd. Os dwi'n cofio o hunan gofiant Ned Thomas, cafodd darpar milwyr fel efe 800 o oriau o Rwsieg nol yn y 50au. Nid chwarae plant bach sydd ei angen. Ond does dim diben dysgu o ddifri oni fydd yr iaith yn cael ei phrif-ffrydio yn y gweithle.
Efrogwr

Anonymous said...

Da gweld Hieni yn deud y gwir . Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn ein hysgolion gyda'r dulliau dysgu Cymraeg fel ail-iaith yn fethiant llwyr. wrth ddysgu saeseng tramor mi fyddwch yn dysgu yr iaith drwy gyfrwng yr iaith a saeseng fydd iaith y dosbarth o'r cychwyn cyntaf. Dylse ein sustem addysg edrych ar arddull TEFL o ddysgu ail-iaith, neu edrych ar sut mae;r Almaen a'r Iseldiroedd/Llychlyn yn dysgu ieithoedd i'w myfyrwyr.

Wythnos ddwethaf cefais ymwelydd o Estonia oedd wedi dysgu Cymraeg mewn mis drwy studio gwefan y BBC!Roedd ganddo fwy o grap ar yr iaith na unryw blentyn sy di astudio'r iaith am 5 mlynedd mewn ysgol gyfun yng Nghymru