Tuesday 31 January 2012

Dysgu sut i hybu iaith yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae Newyddion Sir Gâr, Prafda'r Cyngor Sir, yn mynd i bob cyfeiriad yn Sir Gaerfyrddin bob yn ail fis, doed a ddelo, ac dw i'n nabod sawl person anlwcus sy'n cael mwy nag un copi. Does dim modd dileu'r peth, ac felly mae'r rhan fwya'n ei daflu'n syth mewn i'r sach ailgylchu, tra bod rhai eraill yn gwneud gwelyau i'w bochdewion a gwasarn i'w cathod ohono fe.

Yn y rhifyn diweddara gall cathod a bochdewion y Sir ddarllen am ymweliad i'r hen garchar (sef Neuadd y Sir) yng Nghaerfyrddin gan y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, grŵp sy'n ymwneud â chynllunio ieithyddol yn Ewrop:

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (sic) wedi rhannu'r wers o sut mae'n hybu'r iaith Gymraeg gydag ymwelwyr o wledydd eraill."

Cafodd yr ymwelwyr o Norwy, Llydaw ac Iwerddon eu croesawu gan gadeirydd y cyngor, Ivor Jackson, a Clive Scourfield, aelod o'r bwrdd gweithredol sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg. Dyw'r cadeirydd byth yn siarad Cymraeg yn gyhoeddus, ac mae'n gwisgo clustffonau pan mae'r cynghorwyr eraill yn defnyddio'r Gymraeg yn y siambr.

Y cwestiwn perthnasol yn y cyd-destun yma ydy, pa iaith mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ei hybu? 

- Yn ystod y blynyddoedd diwetha, mae'r cyngor wedi cau rhyw 30 o ysgolion, gan gynnwys nifer sylweddol yn y pentrefi, ac maen nhw'n bwriadu cau mwy mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yng ngogledd y Sir.

- Mabwysiadodd y cyngor Gynllun Iaith sydd yn hynod o wan, heb unrhyw ymrywmiadau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'r iaith. Yn ôl y cynllun, dylai'r cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol am ei bolisi, ond er syndod i neb, mae'n debyg, 'dyn nhw ddim wedi boddran ers 2009-10. Cafodd dim ond 1.7% o staff y cyngor hyfforddiant Cymraeg yn ystod y flwyddyn honno.

- Maen nhw wedi lleihau darpariaeth Cymraeg i Oedolion ac yn mynd ati i dorri cyllidebau'r mentrau iaith.


- Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn annog mewnfudiad o bobl ddi-Gymraeg i mewn i'r Sir gyda stadau anferth o dai newydd ar gyrion Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Er mwyn lliniaru'r effaith ar yr iaith, mae'r Cyngor yn cynnig codi mwy o arwyddion dwyieithog, codi 'chydig o dai fforddiadwy, datblygu'r stadau newydd "yn raddol" a "chefnogi'r iaith yn y gymuned" (ymadrodd digon amwys). Yn ogystal....wel, dyna i gyd.

Yn hytrach na hybu'r Gymraeg, esgeulustod a spin gwag yw'r polisi.

3 comments:

Anonymous said...

Mae "Cyngor Sir Caerfyrddin" yn gywir.

Ceir treiglad yn "Sir Gaerfyrddin" achos bod "sir" yn fenywaidd, ond ni cheir treigliad yn "Cyngor Sir Caerfyrddin" achos bod "cyngor sir" yn wrywaidd.

Ond post diddorol iawn.

Iwan Rhys

Cneifiwr said...

Diolch Iwan - esboniad gwych.

Anonymous said...

Blog diddorol. Dylai fod gas gan y cyngor!