Thursday 22 December 2011

Dewi Prysor - Nostradamus Cymru?

Dw i newydd gael benthyg cyfrol fach o farddoniaeth Dewi Prysor, gweledydd Llan Ffestiniog a boi aml-dalentog. Cyhoeddwyd Limrigau Prysor yn 2003, ac mae'r flwyddyn yn bwysig yn y cyd-destun yma.

Roedd Jeremy Clarkson yn ffenomen cymharol ddiweddar ar y teli bryd hynny. Pwy a wyddai, ar wahân i Dewi Prysor, y byddai Clarkson yn mynd yn un o wancars mwya' Prydain?

Wrth gerdded yn Stratford on Avon
Fe welais i Jeremy Clarkson
Yn halio uwch lun
Ohono ei hun,
Dydi clywed ei hun ddim yn ddigon.

Mae'n edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd o dan reolau Iechyd a Diogelwch prydeinig:

Iechyd a Diogelwch (Deifar yn Rolympics 2)
Troellai tua dŵr y pwll nofio
O uchder, fel llafn yn chwyrlïo,
Ond aeth ffwrdd o'i gyfeiriad,
Lladd ei hun a dau feirniad,
-Mae'r sbringbord angen ajystio.

Rhagwelodd hyd yn oed y Cynlluniau Datblygu Lleol sy'n bygwth Cymru:

Mae Dafydd Llwyd Ifan yn ffarmwr
Sy'n arwain cyngor sir llwgwr,
Mae 'di gwerthu ei dir
I gynllun troi'r sir
Yn swbwrb i Loegar, y bradwr.
 
 Diolch i Dewi Prysor am wneud i fi chwerthin ar ddydd byrraf y flwyddyn.
 
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy wedi cyfrannu at y blog 'ma neu sy wedi ei ddarllen e. Gan gynnwys Cyngor Sir Gaerfyrddin a'r Ifanjelicals!


No comments: