Wednesday 6 July 2011

Ar Lafar - tafodieithoedd newydd a dysgwyr

Testun y rhaglen ddiwethaf o'r gyfres wych Ar Lafar yr wythnos hon oedd 'tafodieithoedd newydd', hynny yw dylanwad y Saesneg a'r cyfryngau newydd. Bu sôn am y ffaith bod yr iaith lafar yn benthyg mwy a mwy o eiriau ac hyd yn oed strwythurau gan y Saesneg ers canol yr 20fed ganrif, a bod pobl ifainc yn cymysgu Cymraeg a Saesneg i raddau mawr. Dyw'r "iaith go iawn" yma ddim "mor intimidating fel Cymraeg ffurfiol" fel y dywedodd un o'r cyfrannwyr. Ond fe nodwyd hefyd fod iaith pobl ifainc yn tueddu i safoni wrth iddyn nhw fagu plant a chyrraedd canol oed.

Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn gyda'r ieithydd adnabyddus David Crystal am yr effaith gadarnhaol a gaiff y we, tecstio, Twitter, Facebook ac ati ar yr iaith. Suddenly Welsh achieves an extraordinary diversity of presence it never had before, meddai cyn ychwanegu ei bod hi'n bwysig iawn bod pobl ifainc a phobl hŷn yn parchu eu ffyrdd gwahanol o ddefnyddio iaith. The biggest threat...comes not from English, but from within (wrth i'r cenedlaethau ddadlau am safonau'r iaith).

Pwynt da iawn, ond dw i ddim yn cytuno'n llwyr. Does dim dwywaith fod mewnfudiad pobl ddi-Gymraeg i'r Fro Gymraeg yn tanseilio'r iaith yn ein cymunedau hefyd.

Dywedodd Dr Enlli Thomas sy'n ymchwilio i'r berthynas sydd gan blant gyda'r ddwy iaith fod dysgwyr yn mynd i gael dylanwad dirfawr ar strwythurau'r iaith yn y dyfodol. Mae mwy o ddysgwyr na siaradwyr brodorol yng Nghymru, meddai, ac mae nodweddion iaith dysgwyr yn wahanol. Nhw ydy dyfodol yr iaith.

Ydy hynny'n hollol wir? Rydym yn sôn am grwpiau gwahanol yn y cyd-destun yma:
  • Oedolion
  • Plant sy'n cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion bach
  • Plant sy'n cael eu haddysg mewn ysgolion mwy eu maint trwy gyfrwng y Gymraeg ond wrth ochr plant Saesneg eu hiaith
  • Plant sy'n cael eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg ac sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith
Ceir gwahaniaeth rhwng yr ardaloedd di-Gymraeg a'r Fro Gymraeg, wrth gwrs, ac mae'n rhaid hefyd ystyried i ba raddau y siaredir Cymraeg gartref.

Sefyllfa gymhleth tu hwnt, felly.

O ran oedolion sy'n dysgu Cymraeg mae'n debyg taw dim ond rhyw 300 o bobl sy'n "croesi'r bont" ac yn mynd yn rhugl dros Gymru gyfan ar gyfartaledd bob blwyddyn. Dim digon i wneud gwahaniaeth i strwythurau'r iaith, felly.

A beth am blant sy wedi dysgu Cymraeg? Faint ohonyn nhw sy'n defnyddio eu Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol? Dim ond canran isel, siŵr o fod. Y gwir yw bod yna sawl rheswm am hynny, ond heb os mae'r fath o Gymraeg sy'n cael ei dysgu yn ein hysgolion yn chwarae rhan bwysig.

Yn anffodus, mae'r sustem addysg yn codi ffiniau rhwng plant Cymraeg iaith gyntaf a phlant sy'n dysgu'r iaith trwy bwysleisio Cymraeg ffurfiol ac annaturiol yn lle canolbwyntio ar gyfathrebu mewn ffordd sy'n addas i'r ardal lle maen nhw'n byw. Fe ddylai hi fod yn bosib dysgu "Cymraeg cywir" wrth ochr yr iaith lafar, yn union fel y mae plant Saesneg eu hiaith yn dysgu ein bod ni'n dweud nait ond bod rhaid ysgrifennu night neu knight.

No comments: