Thursday 10 January 2013

Rali'r Cyfrif yng Nghaerfyrddin - Amser Gweithredu.

Cynhelir Rali'r Cyfrif yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, 19 Ionawr am 11yb o flaen Neuadd y Sir, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cymaint o bobl y Sir ag y bo modd yn troi ma's i ddangos eu cefnogaeth. Ceir rhagor o fanylion ar dudalen Facebook Cymdeithas yr Iaith yma. Dewch yn llu!

***********************************************************

Wedi llyncu canlyniadau torcalonnus y cyfrifiad, mae'n amser mynd i'r gad dros y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn, collodd y Sir dros 6,000 o siaradwyr Cymraeg yn ystod y degawd diwethaf, ac mae hynny'n cyfateb i ostyngiad o 6.4 y cant i 43.9% o'r boblogaeth. Am y tro cyntaf erioed, felly, mae'r iaith Gymraeg yn iaith y lleiafrif yn Sir Gaerfyrddin.

Mae yna sawl rheswm dros hynny: mewnfudiad, newidiadau demograffig, ffactorau unigryw megis presenoldeb poblogaeth ddinesig Llanelli yn y ffigyrau ac - nid yn lleiaf - agwedd y Cyngor Sir tuag at ei gyfrifoldebau am gefnogi a chryfhau lle'r iaith yn ein cymunedau ni.

Fe ddarlledwyd rhaglen arbennig o dda gan Adam Price flwyddyn yn ôl i gofio darlith Saunders Lewis yn 1962. Meddai Adam:

"Prif fyrdwn neges Saunders yw bod tynged yr iaith Gymraeg yn ein dwylo ni. Mae'r iaith Gymraeg yn fyw neu'n farw bob tro rydym ni'n dewis ei defnyddio hi neu beidio. Mae yna gyfrifoldeb ar unigolion ond mae yna gyfrifoldeb ar y genedl hefyd."

Cynigiodd Adam nifer o syniadau i sicrhau dyfodol yr iaith, gan gynnwys symud swyddi Cymraeg o Gaerdydd i'r gorllewin, creu awdurdod lleol newydd Cymraeg ei hiaith yn y gorllewin a newid polisiau tai a chynllunio. Mae "maniffesto byw" Cymdeithas yr Iaith yn debyg iawn i syniadau Adam ac yn rhoi sylfaen gadarn i'r ymgyrch dros ddyfodol yr iaith.

Ond dychwelwn at y Cyngor Sir. Nid yw arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, byth yn siarad Cymraeg er bod cryn dipyn o Gymraeg ganddo. Mae dau ddirprwy arweinydd, sef Tegwen Devichand (Llafur) a Pam Palmer (Annibynnol), ac nid yw'r un ohonynt yn siarad Cymraeg. Dywedodd Pam Palmer yn ddiweddar y dylai'r Cyngor yrru llythyr i "the town whose name I shall not attempt to pronounce" (Machynlleth), a hithau yn aelod o arweinyddiaeth y Cyngor ers dros ddeng mlynedd.

Y nhw sy'n gyfrifol am bolisiau sy'n effeithio ar yr iaith yn uniongyrchol. Tybed, ydy hi'n afresymol i ddisgwyl iddynt osod esiampl dda i'n plant ni a gwella eu sgiliau Cymraeg?

I'r rheiny sy wedi mynychu cyfarfodydd y Cyngor llawn, mae presenoldeb rhes o swyddogion uwch o flaen y cynghorwyr yn olwg cyfarwydd, a phob un ohonynt yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.Yn y cyfarfod diwethaf dim ond dau allan o'r pump swyddog uwch oedd yn eistedd yn ddistaw iawn o flaen y Cadeirydd sy'n medru'r Gymraeg, heb sôn am y Prif Weithredwr (£209,000 yn 2011-12).

Dylai medru cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn angenrheidiol i bob swyddog uwch yn Sir Gaerfyrddin. Os ydym am gadw pobl dalentog a phobl ifainc yn y gorllewin, pam fod y Cyngor yn mewnforio cymaint o swyddogion di-Gymraeg â chyflogau sy'n dod â dŵr i'r llygaid? Mae yna bobl Cymraeg eu hiaith sy'n gallu gwneud y swyddi hyn yn llawn cystal os nid gwell na'r criw yna.

A yw hi'n syndod, felly, bod y Cyngor Sir wedi cau cynifer o ysgolion gwledig, bod cyllideb y Mentrau Iaith yn cael ei haneru, bod y Cyngor yn wfftio dadlau Bwrdd yr Iaith a chymunedau yn erbyn datblygiadau tai anferth?

Y gair olaf i'r Cynghorydd Alun Lenny:
Mae diffyg ewyllys enbyd wedi bodoli tuag at yr iaith ar Gyngor Sir Gaerfyrddin. Ofnaf na fyddai nifer o'm cyd-gynghorwyr yn colli cwsg petai'r iaith yn marw'n gyfangwbl. Ond digon yw digon. Dim mwy o faldod...

8 comments:

Anonymous said...

you left the council meeting early last time, and you missed the unanimous vote in favour of a task and finish group to look the language figures.

in fairness to the council, they have recognised the dissapointing decline in Welsh Speakers, and have established a cross party effort to come up with an answer.

Efrogwr said...

Blogiaid grymus ac amserol. Pam nad ydy Sir Gâr wedi hen fabwysiadau polisi Gwynedd o weinyddu'n fewnol trwy'r Gymraeg. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth yn awr.

Anonymous said...

Rydw i wedi dweud ers blynyddoedd ddyle fod yn angenrheidiol i bob prifweithredwr pob Cyngor yng Nghymru fod yn rhugl yn y Gymraeg, a ddyle pob cyfarfod fod yn hollol ddwyieithog. Man da i ddechrau byddwn i yn dweud. Beth mae pawb arall yn meddwl?

Anonymous said...

Gobeithiaf fydn i hwn.

ON
mae rhywun yn meddwl eu bod yn gwybod pwy wyt ti neu mae gem feddyliol yn mynd ymlaen. :-))

Anonymous said...

Eglurwch

Anonymous said...

Mae werth nodi fod prif weithredwr y cyngor a oedd ar frig cynghrair perfformiad y Western Mail ar gyfer 2012 yn ennill HANNER cyflog Prif Withredwr Sir Gar. Yn ogystal, mae'r prif weithredwr hwnnw - sef Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd yn cyfranu yn Gymraeg, ac yn Gymraeg yn unig ym MHOB cyfarfod cyngor a PHOB pwyllgor.

Anonymous said...

Da iawn - Dyle fod yn angenrheidiol bod pob Cyngor yng Nghymru yn gwneud yr un fath. Beth amdani?

Anonymous said...

Dyna rhyfedd roeddwn i yn meddwl py ddiwrnod , allai enwi nifer o brif sywddogion CCC? Slawer dydd roeddwn i yn gallu, roedd tipyn ohonnynt yn Gymry cymraeg gyda proffeil reit uchel. Mond un allai enwi nawr, sef penaeth cynllunio sydd yn Gymro Cymraeg (ydy hwn yn yn ystyried effaith cynllunio ar yr iaith o gwbl ?, mae'n awyddus iawn i gefnogi gor ddatblygu o fewn y sir). Blow ins yw'r cwbl lot nawr