Thursday 24 January 2013

Dyled Eileen, Nandos a Ladbrokes

Yn ôl y Cyngor Sir, mae Llanelli wedi troi'n brifddinas diwylliant de-orllewin Cymru diolch i'r Odeon a'r theatr newydd yng nghanolfan 'shoppertainment' newydd East Gate. Os nad ydych yn siŵr sut i gyrraedd y theatr, mae'r Cyngor Sir yn esbonio:

It is nestled alongside the £25million East Gate development which houses Odeon and a range of family restaurants, including Nando’s.

Ac dyma newyddion cyffrous chwilboeth i chi - bydd Ladbrokes yn agor yn East Gate cyn hir!

Cewch wledd o ddigwyddiadau diwylliannol os ewch chi draw ym mis Chwefror, gan gynnwys Live Superstars of Wrestling a Jim Davidson - The Legend (mor beryglus ag erioed yn ôl y blyrb). Ond a bod yn deg, mae'r theatr newydd yn taflu rhai gemau o flaen y moch. Y ddrama Dyled Eileen am safiad Eileen a Trevor Beasley a'u brwydr hir dros yr iaith, er enghraifft.

Ffoniodd ffrind i archebu tocynnau'n ddiweddar. Canodd y ffôn am oes cyn i lais benywaidd ateb. "Siarad Cymraeg?" gofynnodd fy ffrind. "No, I do NOT speak Welsh", atebodd honno'n ffyrnig.

Os nad ydych am fynd i Dre'r Sosban i weld Dyled Eileen, ceir perfformiadau ym Mhontardawe, Crymych a Felin-fach. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.


1 comment:

Anonymous said...

Dyma un o'r rhesymau pam mae'r iaith yn cilio am nad yw cyflogwyr yn cyflogi gweithwyr sy'n medru siarad cymraeg.