Saturday 19 January 2013

Rali'r Cyfrif - Safiad Sir Gaerfyrddin

Peth da iawn oedd gweld cynifer o bobl yng Nghaerfyrddin heddiw er gwaetha'r oerfel, yn enwedig y teuluoedd gyda phlant bach a nifer sylweddol o bobl ifainc. Wedi gwrando ar yr areithiau angerddol, does dim dwywaith amdani ni fydd yr iaith Gymraeg yn marw yn Sir Gaerfyrddin heb frwydr ffyrnig.

Cawsom anerchiad gan Phil Grice (Llafur), Maer Caerfyrddin, sy wedi dysgu Cymraeg, a chwarae teg iddo fe. Hyd y gwelais, fe oedd yn cynrychioli Plaid Lafur ar ei ben ei hunan. Doedd yr un cynghorydd 'annibynnol' i'w weld chwaith. Doedd dim arwydd o ddiddordeb ar ran arweinydd y Cyngor, Kevin Madge, nac unrhyw aelod arall o'r Bwrdd Gweithredol.

Clywsom hefyd i un o ddau ddirprwy brif weithredwr y Cyngor anfon e-bost at drefnyddion y Rali i ddweud y dylen nhw symud y Rali o Neuadd y Sir i rywle arall yn y dref "am resymau iechyd a diogelwch". Iechyd a diogelwch y swyddogion uwch eu hunain, mae'n debyg.

Mae'n amlwg nad yw 44% o bobl Sir Gaerfyrddin yn cyfrif yn nhyb y Cyngor Sir, felly.


7 comments:

Anonymous said...

Faint oedd yno? Edrych fel torf fach iawn.

Cneifiwr said...

Rhwng 300 a 500 mae'n debyg.

Anonymous said...

Roedd hi'n oer a'r diawl!

Anonymous said...

80,000 siaradwyr yn Sir Gar. Felly un mas o bob 200 yn bothran troi mas... Sori am hyn,ond dw e ddim yn edrych yn dda.

Cneifiwr said...
This comment has been removed by the author.
Anonymous said...

Roedd y tywydd yn rhewllyd, doedd bron neb heblaw am bobl oedd yn byw yn agos i'r dref yn gallu dod oherwydd yr eira mawr gyda nifer o ffyrdd ar gau, yn yr amgylchiadau yma dwi'n credu bod rhyw 500 yn ffigwr da iawn! Erthygl yn yr Evening Post heddiw, a bydd mwy yn y Journal dydd Mercher:

http://www.thisissouthwales.co.uk/500-attend-Welsh-rally-Carmarthen/story-17918150-detail/story.html

Anonymous said...

Pa dystiolaeth sy' bod 500 wedi troi lan? Mae'r lluniau'n dangos fwy fel 300?