Monday 5 January 2015

Dinasyddion da

Mi aeth criw o Gymdeithas yr Iaith draw i Morrisons yng Nghaerfyrddin yn union cyn y Nadolig fel rhan o ymgyrch i roi pwysau ar y cwmni i drin eu cwsmeriaid yng Nghymru â pharch a thegwch.

Ar y Sul olaf cyn y diwrnod mawr, roedd y stôr yn weddol brysur a'r staff i gyd yn gweithio, yn ôl pob tebyg. Nod yr ymweliad oedd cyflwyno rhestr o alwadau i'r rheolwyr:
  1. Sicrhau bod pob arwydd yng Nghymru yn ddwyieithog;
  2. Polisi Cyflogaeth ac Ymgyrch Recriwtio fydd yn sicrhau digon o staff sy'n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru;
  3. labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand Morrisons;
  4. deunydd hyrwyddo a marchnata dwyieithog;
  5. cyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru.
"Siarad Cymraeg?" gofynnon ni i bedwar aelod o'r staff ar y ffordd i mewn, gan gynnwys dwy fenyw oedd yn sefyll tu ôl i stondin groeso yng nghanol y siop.

"Sorry, no", medden nhw i gyd.

"Here to help" oedd y neges ar y stondin, ond doedd help ddim i'w gael i gwsmeriaid Cymraeg.

Mi gawson ni ddigon o amser i edrych ar yr arwyddion wrth aros am y rheolwr - arwyddion dros dro a rhai parhaol. Roedd yna gant a mil o arwyddion, a'r rhan fwya o bell ffordd yn uniaith Saesneg.

Saesneg oedd iaith y cyhoeddiadau, a Saesneg oedd iaith y caffi.

Daeth y rheolwr cyntaf i siarad â ni yn y pen draw. Dyn digon cyfeillgar oedd hwn, a wedi gwrando arnon ni, aeth e i ffonio adran y wasg. Yn y cyfamser cyrhaeddodd rheolwr arall, a'i ffôn yn glynu wrth ei glust drwy'r amser. Roedd e'n siarad rhywfaint o Gymraeg ac yn llawer llai croesawgar.

Pam bod y Gymdeithas yn pigo ar Morrisons, gofynnodd e. Roedd yr archfarchnadoedd eraill cynddrwg yn hyn o beth. Ac wedyn, "I'm going to have to ask you to leave".

Daeth y rheolwr cyntaf yn ôl cyn i ni adael. Nid yn annisgwyl, "no comment" oedd yr ymateb.

Fel y gwelwch chi yma, mae Morrisons a'r Gymdeithas wedi bod yn trafod defnydd yr iaith ers blynyddoedd. Does dim wedi newid, felly.

Mae mynd i Morrisons ar gyrion Caerfyrddin yn brofiad digon diflas - stôr anferth yng nghanol datblygiad hyll o "gyfleoedd manwerthu", Macdonalds, KFC ac yn y blaen sy'n tyfu tu allan i'r dref. Lle estron, heb wreiddiau yn y gymuned - mi allai rhywun fod yn Luton neu Kirkcaldy.

Yn swyddogol ac yn ôl ei bolisïau cynllunio, mae'r Cyngor Sir am i gwmnïau manwerthu aros yng nghanol y dref - sy'n codi'r cwestiwn pam yn union mae stadau manwerthu'n dal i dyfu tu allan i Gaerfyrddin a phob tref arall yn Sir Gâr.

Daw hyn â ni at y system cynllunio a'r Bil Cynllunio sy'n cael ei ystyried yn y Senedd eleni. Fel rhan o'r broses cynllunio mae pawb sy'n bwriadu codi unrhyw adeilad newydd yn gorfod cyflwyno nifer o ddatganiadau ynglŷn â mynediad i bobl anabl, cynaliadwyedd, yr effaith ar yr amgylchedd, ystlumod, pilipalod (am ryw reswm mae'r Cyngor Sir yn dwlu ar frithegion y gors neu'r marsh fritillary), madfallod dŵr bigog a phob math o greadur gwyllt, ond o ran yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg, mae'r system yn llawer llai cyfarwyddol. Intensely relaxed, fel y dywedodd yr Arglwydd Mandelson mewn cyd-destun gwahanol.

Beth am i'r archfarchnadoedd a chyflogwyr mawr eraill yn y sector manwerthu gyflwyno cynlluniau iaith fel rhan o'r broses cynllunio? Sut maen nhw'n bwriadu cwrdd ag anghenion cwsmeriaid Cymraeg?

Nid elusennau mohonynt wedi'r cyfan, ond dylen nhw fod yn well dinasyddion.

1 comment:

Anonymous said...

Rwy'n credu fod angen i'r Gymdiethas fod yn fwy dychmygol. Rhaid bwrw'r bwystfilod yma yn eu pocedi.