Wrth annerch y dorf ddaeth i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn diwethaf i gyflwyno deiseb "Dw i eisiau byw yn Gymraeg", tynnodd Cadeirydd y Cyngor Sir, Siân Thomas, sylw at ddifaterwch ac atgasedd cynifer o gynghorwyr a swyddogion uwch yr awdurdod tuag at yr iaith Gymraeg. Arhosodd y prifweithredwr, arweinydd y Cyngor a'i ddwy ddirprwy arweinydd gartref gan brofi ei phwynt.
Ychydig o ddyddiau wedyn sefydlodd y Cyngor weithgor newydd i "ymchwilio i'r ffactorau sydd wedi effeithio ar y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin". Ceir disgrifiad o gylch gwaith y grŵp yma (dogfen uniaith Saesneg wrth gwrs).
A barnu'n ôl geiriau Kevin Madge (Llafur) wrth gyflwyno'r grŵp newydd, mae ei ddiffyg uchelgais llwyr yn amlwg:
"Mae'r ffigyrau hyn yn destun pryder ond nid taflu arian at hyn yw'r
ateb. Gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth erbyn y Cyfrifiad nesaf a
gwrthdroi rhai o'r tueddiadau hyn.”
Mewn geiriau eraill, wedi gwastraffu miliynau ar Eglwys Gymunedol Tywi (gwefan uniaith Saesneg er ei bod yn cael cymaint o arian cyhoeddus, gyda llaw), Parc y Scarlets, ceir moethus, "Newyddion Sir Gâr", ac yn y blaen, does yr un ddimai goch ar ôl i'r Gymraeg.
Heb newid agweddau'n sylfaenol, ac heb adnoddau newydd bydd gobaith Kevin Madge o wneud gwahaniaeth cystal â gobaith caneri.
Mae 'na sawl rheswm dros gefnogi syniad Adam Price o greu un cyngor i'r Fro Gymraeg, ac mae hanes Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystod y degawd diwethaf yn un ohonynt.
1 comment:
Gwarthus!
Post a Comment