Sunday 24 March 2013

Difaterwch ac atgasedd

Wrth annerch y dorf ddaeth i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn diwethaf i gyflwyno deiseb "Dw i eisiau byw yn Gymraeg", tynnodd Cadeirydd y Cyngor Sir, Siân Thomas, sylw at ddifaterwch ac atgasedd cynifer o gynghorwyr a swyddogion uwch yr awdurdod tuag at yr iaith Gymraeg. Arhosodd y prifweithredwr, arweinydd y Cyngor a'i ddwy ddirprwy arweinydd gartref gan brofi ei phwynt.

Ychydig o ddyddiau wedyn sefydlodd y Cyngor weithgor newydd i "ymchwilio i'r ffactorau sydd wedi effeithio ar y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin". Ceir disgrifiad o gylch gwaith y grŵp yma (dogfen uniaith Saesneg wrth gwrs).

A barnu'n ôl geiriau Kevin Madge (Llafur) wrth gyflwyno'r grŵp newydd, mae ei ddiffyg uchelgais llwyr yn amlwg:

"Mae'r ffigyrau hyn yn destun pryder ond nid taflu arian at hyn yw'r ateb. Gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth erbyn y Cyfrifiad nesaf a gwrthdroi rhai o'r tueddiadau hyn.”

Mewn geiriau eraill, wedi gwastraffu miliynau ar Eglwys Gymunedol Tywi (gwefan uniaith Saesneg er ei bod yn cael cymaint o arian cyhoeddus, gyda llaw), Parc y Scarlets, ceir moethus, "Newyddion Sir Gâr", ac yn y blaen, does yr un ddimai goch ar ôl i'r Gymraeg.

Heb newid agweddau'n sylfaenol, ac heb adnoddau newydd bydd gobaith Kevin Madge o wneud gwahaniaeth cystal â gobaith caneri.

Mae 'na sawl rheswm dros gefnogi syniad Adam Price o greu un cyngor i'r Fro Gymraeg, ac mae hanes Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystod y degawd diwethaf yn un ohonynt.

1 comment:

Anonymous said...

Gwarthus!