Tuesday 30 October 2012

Gwelliant anhygoel

Diolch i'r Cynghorydd Arfon Jones am wneud ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i ofyn dau gwestiwn syml:
  • Faint o weithwyr mae'r Cyngor yn eu cyflogi ar hyn o bryd? 
  • Faint o’r gweithwyr yna sydd mewn swyddi sydd wedi eu dynodi fel fod y Gymraeg yn angenrheidiol?  
Gallwch chi ddarllen yr atebion ar flog Plaid Wrecsam (yma). Er syndod i neb yn Sir Gâr (9,004 aelod o staff, gyda llaw), doedd y wybodaeth ddim ar gael, a chafodd y cais ei wrthod.

Yn ôl Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y Cyngor (sydd hefyd yn enwog fel y Swyddog Monitro), mae'r awdurdod wedi bod wrthi'n paratoi awdit manwl o sgiliau iaith ei staff. Dyma'r canlyniadau:

Adran

Nifer o weithwyr sydd wedi cwblhau’r arolwg
Gweithwyr â sgiliau siarad Cymraeg
Gweithwyr â sgiliau ysgrifennu Cymraeg
Y Prif Weithredwr
281
222 (79%)
185 (65.8%)
Addysg a Gwasanaethau Plant
613
473 (77%)
351 (57.2%)
Adfywio a Hamdden
347
238 (68.9%)
175 (50.4%)
Adnoddau
351
253 (72%)
185 (52.7%)
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Thai
552
367 (66.4%)
261 (47.2%)
Gwasanaethau Technegol
317
239 (75.4%)
184 (58%)
Eraill
45
29 (64.4%)
22 (48.9%)
Cyfanswm
2506
1821 (72.7%)
1363 (54.4%)



Dyma ffigyrau sy'n hynod o bositif o'u cymharu â'r sefyllfa yn 2009-10. Yn ei adroddiad blynyddol i'r hen Fwrdd yr Iaith, dyma oedd ffigyrau swyddogol y Cyngor dair blynedd yn ôl:

Nifer a % y staff sy’n gweithio i’r Cyngor sy’n gallu siarad Cymraeg (ac eithrio athrawon a staff ysgolion):

Prif Weithredwr                                  178 (314)    57%

Adnoddau                                           226 (425)    53%

Adfywio a Hamdden                           193 (470)     41%

Gofal Cymdeithasol a Thai                   822 (1616)   51%

Addysg a Gwasanaethau Plant             719 (3647)  20%

Gwasanaethau Technegol                     280 (1009)  28%

Awdurdod cyfan                                2418 (9213)  26%

Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o staff heb gwblhau'r arolwg eleni, ond o ystyried i'r nifer o gwynion i Adran Addysg y Cyngor ddangos gostyngiad o 563% y llynedd, mae pob dim yn bosib yn Sir Gâr.


5 comments:

Anonymous said...

Beth yn union yw sgiliau siarad Cymraeg? Siarad yn eithaf rhugl neu jest dweud "borah" dar"?

Anonymous said...


Beth yn union yw Nepotiaeth.

Anonymous said...

O diawl! Mae'r brigad sillafu, treiglo ayyb wedi ymddangos.

Anonymous said...

Fy pwynt oedd, ai sgiliau Iaith yw. Jest y Gallu I ateb y ffon yn gymraeg ac wedyn ymddiheuro am beidio Gallu parhau yn y gymraeg, ynte actually Gallu cynnal sgwrs a rhoi gwasanaeth

Cneifiwr said...

Pwynt da. Diolch am gysylltu.