Thursday 16 August 2012

Llaeth ac atebion di-ddal

Un o ardaloedd mwyaf blaengar Cymru o ran cynhyrchu llaeth yw Sir Gaerfyrddin, ac felly mae dyfydol ein parlyrau godro'n bwysig iawn i'r economi leol.

Yn ôl y Carmarthen Journal, mae NFU Cymru wedi ysgrifennu i bob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru i ofyn a ydyn nhw'n talu pris teg am eu llaeth.

Fel mae'n digwydd, dywedodd arweinydd y Cyngor Sir, Kevin Madge a'i ddirpwy arweinydd Pam Palmer mewn datganiad diweddar bod croeso i unrhywun gysylltu unrhywbryd "os gallwn ni helpu fel Cyngor" i sicrhau prisiau teg i ffermwyr llaeth.

Dywedodd llefarydd dros y Cyngor bod yr awdurdod yn gwario rhyw £108,000 bob blwyddyn ar gynnyrch llaeth, gan osgoi ateb cwestiwn NFU Cymru a ydy'r Cyngor yn talu pris teg am laeth.

Mae Cyngor Sir Gâr yn prynu ei holl stwff gwyn yn lleol, meddai, gan ychwanegu mai R&A Pontarddulais, Ddol-Fach Llanelli a Jones & Davies Llandysul yw cyflenwyr cynhyrchion llaeth iddo.


Cyfanwerthwr ffrwythau a llysiau yw Jones a Davies, ac nid yw Llandysul na Phontarddulais yn Sir Gaerfyrddin am wn i. O diar.

3 comments:

Anonymous said...

When in trouble or with nothing to say seek refuge in the language.

Cneifiwr said...

Diolch Pam.

Emlyn Uwch Cych said...

Na, chwarae teg, mae Jones a Davies ym Mhontweli - ochr gorau dŵr y Teifi.