Mae Cyngor Sir Gâr yn awyddus iawn i bwysleisio bod yna fwy i Sir Gaerfyrddin na Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman. Pam Palmer, un o ddau ddirpwy arweinydd y Cyngor, fydd yn achub Cwmsgwt a phob cymuned arall ma's yn y stics.
Sut? Trwy gau'r holl ysgolion bach hen ffasiwn yn y pentrefi a chodi archfarchnadoedd yn ein trefi bach. Yn ôl y Cyngor, mae yna le i dair archfarchnad yng Nghastell Newydd Emlyn (1,500 o drigolion) a Sainsbury's enfawr yn Llandeilo. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi hwpo'i thrwyn mewn yn achos Llandeilo a phenderfynu craffu'r cynlluniau.
Wedi darllen The Daily Mail, daeth Pam i'r casgliad yr wythnos hon nad yw'r ffermwyr yn gwbl hapus i gynhyrchu llaeth ar golled.
Dyma oedd cyfle PR, er gwaetha'r ffaith bod y ffermwyr yn protestio ers mis Mehefin. Felly, datganiad i'r wasg amdani. Uniaith Saesneg, wrth gwrs, ond mae'r hambons yn gallu darllen iaith y Cyngor, on'd ydyn nhw?
Mae'n bwysig i'r ffermwyr gael pris teg am eu llaeth, meddai Pam. Ychwanegodd Kevin Madge, arweinydd y Cyngor:
"We are committed to our farmers
in Carmarthenshire and to sustain the jobs they create in the
countryside that we are so proud of. We are available to see anyone at
any time if there is anything we can do as a council to help.”
Sebon pur gan nad oes fawr ddim y gall y Cyngor ei wneud i effeithio pris llaeth.
Y mae gweithredu a PR, y ddau hyn. A'r mwyaf o'r rhain yw PR.
No comments:
Post a Comment