Friday 3 August 2012

John Jenkins

Ychydig o eiriau am yr anffodus John Jenkins, cynghorydd ar gyfer Elli yn nhre'r Sosban, sydd bellach mewn helbul oherwydd sylwadau amhriodol am buteiniaid a "kiddy fiddlers" ar Twitter. Tipyn o gymeriad i rai, mae'n debyg, twpsyn llwyr i'r lleill.

Y gwir yw bod cryn dipyn o hanes gan John Jenkins yn hynny o beth. Bu rhaid iddo roi'r ffidil yn y to fel ymgeisydd swyddogol y Toriaid ddwywaith yn 2003 a 2007 oherwydd sylwadau cas am bobl hoyw: am y tro cyntaf fel ymgeisydd i'r Cynulliad, ac am yr ail dro fel ymgeisydd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro mewn etholiad i San Steffan.

Mae hynny'n dweud llawer mwy am gyflwr y Ceidwadwyr yng Nghymru na dim byd arall.

Yn ôl y sôn, rhywun o'r Blaid Lafur wnaeth gwyno i'r Ombwdsman y tro hwn. Os yw hynny yn wir, mae Llafur Sir Gâr wedi anghofio'n llwyr am Shahid Hussein, ei ymgeisydd dros Lanaman a ddaeth i'r amlwg oherwydd ei gyfraniadau lliwgar ar Twitter ym mis Ebrill.

Ymddiheurodd Hussein, a bu hynny yn ddigon i Kevin Madge, arweinydd Llafur Sir Gâr. Ychwanegodd Kev, "I have pointed out to him that Twitter is dangerous and it's not something I support. I don't use it and I do not want any of our political candidates to use it - it's only young people and not a good thing to use for politics".

Gall cyllyll cegin fod yn beryglus yn nwylo twpsyn, wrth gwrs, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu defnyddio i dorri winwns.



2 comments:

Cai Larsen said...

Mae Mr Jenkins yn nytar o'r radd eithaf wrth gwrs.

Ond efallai mai'r gwahaniaeth rhwng hyn a'r achos blaenorol ydi nad oedd yn bosibl cyfeirio Mr Hussein i sylw'r Ombwdsman oherwydd nad oedd yn gynghorwydd ar yr amser y gwnaeth ei sylwadau anffodus.

Mae'n debyg gen i mai cyfeirio'r mater i'r pwyllgor safonau wneith yr Ombwdsmon, ac mi fydd rheiny yn gofyn iddo ymddiheuro, ac o bosibl aros adref am ychydig wythnosau i wneud beth bynnag mae'n ei wneud pan mae o adref.

Anonymous said...

Y gwahaniaeth rhwng John Jenkin a Mr hussain, YW box un wedi ei ethol, byddi plaid wedi cwyno i'r ombudsman Os oedd Mr hussain yn gynhorydd ar y pryd.