Sunday 1 April 2012

Y Cneifiwr yn rhan bwysig o etifeddiaeth Cymru

Bois bach, a finnau'n hen gneifiwr brwnt. Tybed, a fyddai'r Cyngor Sir
yn fy ystyried fel rhan bwysig o'n hetifeddiaeth ddogfennol?
Neu fel poen yn y tin?

Ymddengys y bydd fy rwtsh ar gael yn oes oesoedd. 
 
Annwyl Y Cneifiwr,
 
Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru eich gwahodd i gymryd
rhan yn Archif We y DU drwy archifo eich gwefan 
(http://cneifiwr-emlyn.blogspot.co.uk/*). Mae Archif We
y DU yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru y
Llyfrgell Brydeinig, JISC, a Llyfrgell Wellcome i ddiogelu
gwefannau ar gyfer defnyddwyr y dyfodol.  Rydyn ni wedi
nodi’r wefan hon fel rhan bwysig o etifeddiaeth 
ddogfennol Cymru a hoffen iddi barhau i fod ar gael i
ymchwilwyr yn y dyfodol. Bydd y copi o’ch gwefan a archifir
yn dod yn rhan o’n casgliadau parhaol.
 
Llawer o ddiolch, 
 
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU

4 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Llongyfarchiadau...fe fydd yn yr archif o dan Rebals y Gymru Ddigidol.

Cneifiwr said...

Yn gwmmws! Diolch am eich sylwadau caredig.

Anonymous said...

Da iawn!

Ar fater arall, a fydd rhestr lawn o ymgeiswyr Sir Gâr ar gael ar y we, a phryd? Os bydd, a fyddet cystal â rhoi dolen ar dy flog?

Iwan Rhys
(a fagwyd yn y sir)

Cneifiwr said...

Bydd, ar y 10ed o Ebrill, rwy i'n credu. Rwy i'n bwriadu rhoi dolen iddi a 'chydig o sylwadau, siwr o fod!