Bois bach, a finnau'n hen gneifiwr brwnt. Tybed, a fyddai'r Cyngor Sir
yn fy ystyried fel rhan bwysig o'n hetifeddiaeth ddogfennol?
Neu fel poen yn y tin?
Ymddengys y bydd fy rwtsh ar gael yn oes oesoedd.
Annwyl Y Cneifiwr, Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru eich gwahodd i gymryd
rhan yn Archif We y DU drwy archifo eich gwefan (http://cneifiwr-emlyn.blogspot.co.uk/*). Mae Archif We
y DU yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru y
Llyfrgell Brydeinig, JISC, a Llyfrgell Wellcome i ddiogelu
gwefannau ar gyfer defnyddwyr y dyfodol. Rydyn ni wedi
nodi’r wefan hon fel rhan bwysig o etifeddiaeth ddogfennol Cymru a hoffen iddi barhau i fod ar gael i
ymchwilwyr yn y dyfodol. Bydd y copi o’ch gwefan a archifir
yn dod yn rhan o’n casgliadau parhaol.
Llawer o ddiolch,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU
4 comments:
Llongyfarchiadau...fe fydd yn yr archif o dan Rebals y Gymru Ddigidol.
Yn gwmmws! Diolch am eich sylwadau caredig.
Da iawn!
Ar fater arall, a fydd rhestr lawn o ymgeiswyr Sir Gâr ar gael ar y we, a phryd? Os bydd, a fyddet cystal â rhoi dolen ar dy flog?
Iwan Rhys
(a fagwyd yn y sir)
Bydd, ar y 10ed o Ebrill, rwy i'n credu. Rwy i'n bwriadu rhoi dolen iddi a 'chydig o sylwadau, siwr o fod!
Post a Comment