Monday 20 February 2017

Mistar Urdd, y Kippers a Chyflafan mewn Cwt Ieir

Helo blant!

Mae hi bron yn amser gwely. Ydych chi'n barod am stori fach?

Roedd yn ddiwrnod braf pan aeth Mistar Urdd i Ben-y-Bont ar Ogwr i gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017 a chwrdd â llawer o bobl bwysig iawn.

"Rydym yn mynd i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg", meddai Wncwl Carwyn.

"Rwy'n caru'r iaith Gymraeg", meddai Anti Caroline Jones, Aelod Cynulliad UKIP , "ond dw i ddim am weld addysg Gymraeg i holl blant Cymru".

Teimlai Mistar Urdd braidd yn anghyffyrddus wrth iddo sefyll rhwng Anti Caroline ac Wncwl Carwyn, ond gwenai pawb arall o glust i glust!


A dyma Darren Bromham-Nichols sy'n gweithio i Anti Caroline yn ei swyddfa fach hyfryd yng Nghastell Nedd. Am enw anodd, blant!


Mae Mr Bromham-Nichols yn hoffi cŵn bach, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cwestiynau cyfoes, megis "I ba raddau ydy hiliaeth a sosialaeth yn elfennau annatod o ffasgaeth?":

While I think we can concede racism is more of a subject now and more is brought to the surface, none of us expect slaves working in the cotton fields or have to make sure we're not walking into the wrong “Whites” or “Coloureds” entrance. I mean, I've not been on a bus for a while but I don't expect they still make black people sit at the back any more...

Na, dw i ddim yn deall chwaith, blant. 

Tra bod Mr Bromham-Nichols yn hoff iawn o gŵn bach annwyl, dyw e ddim yn hoffi rabsgaliwns Cymdeithas yr Iaith. Ddim o gwbwl.

"Maen nhw'n eithafwyr plentynaidd", meddai Wncwl Neil Hamilton, sydd yn ffrind i Anti Caroline.

Ac yna aeth Mr Bromham-Nichols ati i ymchwilio Cymdeithas yr Iaith yn ei swyddfa fach hyfryd. A oedd Wncwl Carwyn yn rhoi arian i'r bobl ddrwg yma?

Er siom fawr Mr Bromham-Nichols, methodd ei waith ymchwil, ond roedd e'n benderfynol o fynd i'r gad yn erbyn gwehilion cythryblus yr hen Gymdeithas ddrwg.


"The hunters will become the hunted", meddai Mr Bromham-Nichols. "Tally-ho, what, what!"

Ac wele, draw ym Mae Caerdydd roedd yna ffermwraig ifanc o'r enw Dr Bethan Jenkins. "Rwy wedi penderfynu gwahardd llwynogod Cymdeithas yr Iaith rhag rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cwt Ieir am nad ydyn nhw'n parchu mandad democrataidd UKIP", meddai.

Roedd Wncwl Neil, Anti Caroline a Mr Bromham-Nichols wrth eu bodd. "Am benderfyniad gwych", medden nhw.

Yn fuan iawn ar ôl hynny, cafodd Wncwl Neil wahoddiad annisgwyl gan aelodau Plaid Lafur yn Llangennech oedd yn eiddgar am ei weld yn y pentref.

"A wnewch chi gysylltu â nhw i drefnu gwibdaith a'r cyhoeddusrwydd?" gofynnodd Wncwl Neil i Mr Bromham-Nichols. Yn Saesneg, wrth gwrs.

Ac i ffwrdd ag ef.

Fe gafodd Mr Bromham-Nichols sgwrs gyfrinachol, ddifyr efo'i ffrindiau newydd yn ardal Llanelli fel aelod o grŵp preifat ar Weplyfr.

😊😊😊😊😊😊

Ond yn anffodus, roedd rhyw hen lwynog cyfrwys yn clustfeinio, ac mi ddaeth y cyfan allan mewn cyfres o twîts.

Roedd yna gecru a chlegar byddarol yn hen dŷ cam Plaid Lafur, a'r plu'n hedfan ymhobman. "Nid arnaf fi mae'r bai", meddai Mr Waters, ac roedd pawb ond y Kippers yn flin ofnadwy.

Wel, dyna stori ryfedd!

Cysgwch yn dawel, blantos.






1 comment:

Anonymous said...

Rhywbeth i ddod â gwen i'n hwyneb ar fore Llun. I'r dim Cneifiwr :-)