Friday 10 October 2014

Ust! Panel Iaith ar waith

Yn Ebrill 2013, ryw ddwy flynedd ar ôl Cyfrifiad 2011, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf "Gweithgor y Cyfrifiad", grŵp trawsbleidiol Cyngor Sir Caerfyrddin. Tasg y grŵp oedd edrych yn graff ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y sir a llunio strategaeth iaith newydd.  Yna, yn Ebrill 2014 ar ôl blwyddyn arall o ymchwil a thrafodaethau,  derbyniodd y Cyngor llawn adroddiad terfynol y Gweithgor a 73 o argymhellion.

Penderfynodd y Cyngor hefyd y dylai'r gweithgor barhau ar ryw ffurf neu'i gilydd er mwyn cadw ffocws ar y gwaith o weithredu'r argymhellion. I'r diben hwn sefydlwyd "panel iaith ymgynghorol".

Cynhaliodd y grŵp newydd gyfarfod cyfansoddiadol ym mis Gorffennaf dan gadeiryddiaeth Mair Stephens. Heblaw am fod yn hen gyfaill i Meryl Gravell, byddai'n deg dweud nad yw cymwysterau na sgiliau'r Cyngh. Stephens yn amlwg yn y cyd-destun yma.


Peidiwch da chi ag ysgrifennu at Mrs S. yn Gymraeg, felly.

A thra'n bod ni'n sôn am Meryl Gravell, mi ddaeth hi'n amlwg yng nghyfarfod y Cyngor Sir yr wythnos hon mai hi yw'r unig berson sy'n gallu egluro pwy ddwedodd wrth y Bwrdd Gweithredol y gallai'r iaith Gymraeg fod yn rhwystr i ddenu buddsoddwyr tramor i'r Sir.

Symudwn ymlaen i fis Hydref 2014 a chyfarfod cyntaf (go iawn) y panel newydd.

Yn anffodus, does dim modd dweud beth ddigwyddodd yn y cyfarfod hwnnw, am fod y cyhoedd a'r wasg wedi cael eu cau allan. Ni fydd cofnodion yn cael eu cyhoeddi chwaith.

Pam hynny? Wel, er bod Kevin Madge wedi honni ei fod e am greu cyngor mwya' trylowy Cymru, mae'r panel/pwyllgor newydd yn un strategol yn hytrach nag un cyfansoddiadol, ac felly maen nhw'n gorfod cwrdd tu ôl i ddrysau caeedig yn ôl y Cyngor. Wir i chi.

Dylid gofyn beth fyddai'n digwydd petai'r panel yn wfftio'r rheolau chwerthinllyd hyn a chroesawu'r cyhoedd a'r wasg. Ymyrraeth Heddlu Dyfed Powys i atal cyfarfod agored? Terfysgoedd yn strydoedd Caerfyrddin? Diwedd y byd?

Yn ôl y sibrydion, yr economi oedd testun y cyfarfod diwetha'. Fel cyflogwr mwya' Sir Gâr, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb arbennig i wneud yn siŵr bod yna sail economaidd gadarn i'r iaith. Y ffordd amlycaf o greu'r amodau angenrheidiol yw datblygu gweithlu dwyieithog, sicrhau bod yna gyfleoedd i siaradwyr y Gymraeg ddatblygu gyrfa yn y cyngor, a dechrau gweithredu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyna oedd disgwyliad caredigion yr iaith, ac dyna oedd dehongliad y rhan fwyaf o'r bobl ddarllenodd yr adroddiad, gan gynnwys y BBC:

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell gwneud newidiadau i'r maes cynllunio a cheisio sicrhau bod y cyngor yn gweithredu drwy gyfrwng yr iaith.

Y gwir amdani yw bod gwrthwynebiad cryf i'r syniad ymhlith y swyddogion uwch a rhai o'r cynghorwyr ar y Bwrdd Gweithredol.

Er bod canran sylweddol o'r swyddogion uwch yn ymddeol, mae'r cyngor yn brysur penodi carfan newydd o swyddogion di-Gymraeg. Dim ond un o'r cyfarwyddwyr sy'n medru'r Gymraeg erbyn hyn, a hynny mewn sir lle mae rhyw 44% yn siarad Cymraeg.

Wedi galw am awdit sgiliau iaith yn y gweithlu ac argymell y dylai'r cyngor fabwysiadu Fframwaith ALTE i'w hasesu nhw, mae'r adroddiad yn awgrymu:

43. Unwaith bydd y Cyngor wedi gweithredu’r camau uchod i gefnogi datblygiad y gweithlu, cyflwyno mesurau pellach i alluogi’r Cyngor i weithredu’n ddwyieithog gan roi pwyslais ar y defnydd cynyddol o’r Gymraeg.

Nid oes amserlen na thargedi pendant, ac mae "gweithredu'n ddwyieithog gan roi pwyslais ar y defnydd cynyddol o'r Gymraeg" yn llawer mwy tila na "gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg".

Llusgo traed a busnes fel arfer amdani, felly. 

Ni fydd newidiadau i'r maes cynllunio chwaith. Un o argymhellion yr adroddiad oedd ysgrifennu at Carwyn Jones i'w berswadio y dylai'r iaith fod yn ystyriaeth faterol yn y Bil Cynllunio newydd, ond nid oes yr un cyferiad at yr iaith yn y ddeddf arfaethedig.

Dim ond ym maes addysg plant bydd newidiadau arwyddocaol fel canlyniad, ac un o'r gwersi pwysicaf ym myd cynllunio iaith yw bod canolbwyntio ar addysg yn unig yn gamgymeriad sylfaenol. 

2 comments:

Unknown said...

Fel rhywun a ganed yn Sir Gar dwy ddim yn cael pleser o gynharu'r cyngor Sir gyda CS Ceredigion (ble dwy wedi byw ers blynyddoedd) ond eto ble mae Ceredigion yn yn cyflogi nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn y swyddi uchel a phob ysgol gynradd yn dysgu Cymraeg (hyd yn oed ysgol Pladcrug, Aberystwyth gyda ystod eang o genedloedd yn mynychu). Cwilydd ar Kevin Madge, Cymro Cymraeg am beidio a sefyll lan dros yr iaith. Ond pwy a wyr, efallai, gyda ymddeoliad sydd a rfyn digwydd, eto daw haul ar fryn.

Anonymous said...

Mae Ceredigion yn wahanol i Sir Gaer Mae gennym banner cant y cant o'n poblogaeth sydd yn siaradwyr Saesneg