Thursday 2 October 2014

Pla o anrhydeddau

Er fy nghywilydd, prin iawn yw'r cofnodau Cymraeg ar y blog hwn, o leiaf yn ddiweddar, ond heddiw ry'n ni'n dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, ac mae pedwar bardd talentog wrthi'n cyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol o fewn 24 awr yma.

Daliodd un o gerddi Gruffudd Owen fy sylw y bore 'ma. Er ei bod yn sôn am godi eye sore ger creigiau Aberdaron, mae'r gerdd yn dwyn sawl cynghorydd annibynnol y De Orllewin i gof am ryw reswm.

Dyma i chi Gydag ymddiheuriadau wrth Cynan. Mwynhewch.

1 comment:

Unknown said...

Dim ond am dweud faint ro'n i wedi mwynhau'r cerddi hefyd.