Saturday 24 May 2014

Cariad at Iaith a'r siaradwyr colledig

Byddai'n hawdd gwneud hwyl ar ben y 'selebs' fydd yn dysgu Cymraeg dros wythnos o Cariad at Iaith yn Nant Gwrtheyrn eleni: dyn canol oed oedd yn canu mewn grŵp anghofiedig yn y 90au, actores sy'n byw yn Llundain, cyn-chwaraewr pêl-droed, seren cyfres realiti ar Channel 5, tri arall a Jenna pwy?


Cafodd pob un ohonyn nhw eu haddysgu yng Nghymru, a'r rhan fwyaf yn weddol ddiweddar. Mae'r ffaith eu bod nhw'n cael eu trin fel dechreuwyr pur yn tystio i fethiant llwyr Cymraeg ail iaith fel pwnc yn ein system addysg, on'd yw hi?

Ond peidiwch â fy nghamddeall - mae gan y rhaglen y bwriadau gorau. Dim ond gofyn ydw i pa mor effeithiol yw hi. 

Nod y rhaglen yw ysbrydoli eraill i ddysgu'r iaith, mae'n debyg. Dyna'r meddylfryd y tu ôl i ddewis carfan sy'n cynnwys pobl (weddol) enwog ac ifanc o ardaloedd trefol de Cymru. Y ddemograffeg sy'n bwysig, ond gan fod y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C, mae yna le i ofyn faint o bobl ddi-Gymraeg yn eu 20au/30au sy'n debyg o wylio.

Mae Cariad at Iaith yn pregethu i'r cadwedig, ac o farnu yn ôl esiampl y blynyddoedd blaenorol, isel iawn yw'r tebygolrwydd y bydd mwy nag un aelod o garfan 2014 yn croesi'r bont, os hynny.

Mewn gwirionedd, mae yna hen ddigon o gyrsiau a chyfleodd i ddechreuwyr pur ymhobman, ond os ydyn ni am adfer yr iaith yn ei chadarnleoedd a chreu Cymru wir ddwyieithog, mae grŵp mawr o bobl yn ein plith sydd yn cael eu hesgeuluso. Yn ôl y cyfrifiad, 5.3% (dros 150,000 o bobl) yw'r canran sy'n deall Cymraeg lafar yn unig. Dydyn nhw byth yn siarad Cymraeg, felly, ac roedd 20,000 ohonyn nhw yn Sir Gaerfyrddin.

Dychmygwch - mi fyddai Ioan Talfryn a Nia Parry'n creu 8 o siaradwyr newydd o fewn wythnos.











2 comments:

Anonymous said...

A oeddech chi'n arfer ymwneud a'r Palican ar un adeg?

Cneifiwr said...

Peint o Bass i fi, diolch!