Sunday 26 January 2014

Croesi'r bont i fyw yn Gymraeg

Hen Bont Aberteifi : 11am : 01/02/14 : Cen Llwyd, Dewi Pws a mwy

Dros flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad - canlyniadau a ddangosodd bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng - beth mae Carwyn Jones wedi ei wneud i ymateb? Dim - er mai dyhead nifer helaeth o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg.

Er mwyn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu ar frys ar chwech o bethau penodol, mae Cymdeithas yr Iaith yn dechrau ar gyfnod o weithredu uniongyrchol.

1. Addysg Gymraeg i Bawb
2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg
3. Llywodaeth Cymru ac Awdurodau Lleol i osod esiampl trwy weinyddu'n fewnol yn Gymraeg
4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir
5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau
6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

Mwy o fanylion am ymgyrch chwe pheth ar ein gwefan - http://cymdeithas.org/6pheth

Gydag ymgyrchu cadarnhaol ac ewyllys gwleidyddol, gallai'r Gymraeg ffynnu eto dros y blynyddoedd i ddod. Ymunwch â ni ar Hen Bont Aberteifi am 11am ar Chwefror y 1af i roi neges glir i Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru.

Dewch yn llu!
 

No comments: