Saturday, 13 April 2013

Dyw Penybanc ddim ar werth!

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â thrigolion Penybanc ddydd Sadwrn, 20 Ebrill am 11.30 i wrthwynebu datblygiad o 289 o dai yn y pentref.

Dewch yn llu i anfon neges gref i'r Cyngor Sir bod pobl Sir Gaerfyrddin wedi cael llond bol ar ddatblygiadau sy'n chwalu ein cymunedau.

Bydd cyfle i glywed y Banditos, band ifanc lleol, a chael manylion pellach am yr ymgyrch leol i rwystro datblygiad a sut bydd yn effeithio'r gymuned a'r Gymraeg ar draws y Sir. 

Meddai Alun Davies, y cynghorydd lleol:

Mae llawer o wrthwynebiad yn lleol ond mae'n rhywbeth sy'n berthnasol i bawb yn y Sir. Rydyn ni'n trafod yn lleol beth gallwn ni wneud i roi stop ar y datblygiad ac yn falch o allu cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith ar hynny. Gobeithio y bydd y brotest rydyn ni yn lleol yn ei chyd-drefnu gyda Chymdeithas yr Iaith ar gyfer dydd Sadwrn nesaf (20fed o Ebrill) yn ddechreuad ar ymgyrch gref i ddangos i'r Cyngor Sir fod angen iddyn nhw wrando ar lais y bobl.

Ychwanegodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:

Mae'r datblygiad tai yma yn pwysleisio'r negeseuon cymysg sydd yn dod gan y Cyngor Sir - ar y naill law mae sefydlu grŵp fel ymateb i'r ganlyniadau'r Cyfrifiad ond eto yn caniatáu datblygiad mor fawr, datblygiad a fydd yn cael effaith ar gymunedau a'r Gymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin - a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad lleol. Rydyn ni'n pryderu mai dim ond un o nifer o ddatblygiadau fydd hwn, felly nid protest ar gyfer pobl Penybanc yn unig yw hon ond, protest ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan i bwysleisio nad yw Sir Gar ar werth i ddatblygwyr tai.



 

1 comment:

Anonymous said...

Homes for young people and jobs , what do they want ??