Friday 5 April 2013

Cynllunio a'r Iaith Gymraeg


Gan fod cynllunio a'r iaith Gymraeg yn bwnc llosg ar hyn o bryd, dyma ichi grynodeb o'r sefyllfa gyfredol:

O ran yr iaith Gymraeg a chynllunio, yr unig bolisïau llywodraethol cyfredol yw tri pharagraff yn Polisi Cynllunio Cymru a TAN (Technical Advice Note/Nodyn Cyngor Technegol) 20 o’r flwyddyn 2000 sy’n ymdrin â  Chynlluniau Datblygu Unedol (UDP) . Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cydnabod bod yr iaith Gymraeg yn rhan o ffabrig cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac y dylai’r gyfundrefn gynllunio ystyried anghenion a buddiannau’r iaith Gymraeg.  Nid yw TAN20 yn berthnasol bellach, a chaiff Cynllun Datblygu Unedol Sir Gaerfyrddin ei ddisodli gan Gynllun Datblygu Lleol (LDP) erbyn 2015.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gyfer TAN20 newydd yn 2010-2011, ond bu rhaid aros tan fis Mawrth 2013 cyn i’r TAN drafft ymgynghorol weld golau dydd. Does dim newid sylfaenol yn TAN20 drafft diwygiedig i’r hyn oedd yn y fersiwn blaenorol. Barn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw bod y TAN drafft yn siomedig ac yn arwynebol, a bod cyfle gwych wedi ei golli. Mae’r polisi drafft yn ddiffygiol o ran cyfarwyddyd pryd a sut fath o asesiad iaith y dylid ei wneud, ac mae’n methu â rhoi unrhyw gyfarwyddyd ar sut y dylid ymdrin â chais cynllunio, meddai. Barn Pennaeth Cynllunio Sir Gaerfyrddin yw bod y TAN drafft yn gwahardd asesiadau effaith ar yr iaith mewn ceisiadau unigol.

Cyhoeddwyd dogfen arall, sef ”Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – Y Ffordd Ymlaen”, gan nifer o awdurdodau lleol, yr hen Fwrdd yr iaith a Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai yn 2005. Mae’r ddogfen yn cynnwys canllawiau ar gyfer asesiadau effaith ar yr iaith, ac mae’r rhan fwyaf o’r asesiadau ieithyddol yn seiliedig arnynt.

Ym marn un cynghorydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

 ”Mae’r asesiadau’n seiliedig ar ddeunaw o gwestiynau sydd yn gofyn am ymateb un gair i’r gofynnion ymhob cwestiwn sef, Positive, Neutral neu Negative. Mae llawer o’r cwestiynau yn amwys ac yn gwbl amherthnasol i’r broses cynllunio yng nghyd destun iaith a diwylliant.

Mae hynny yn golygu fod cynllunwyr yn achos cais am dros 400 o dai yn Ffos Las a dros 300 yn ardal Saron wedi gallu cynhyrchu asesiad iaith oedd yn datgan yn glir fod y datblygiad yn y ddwy achos yn mynd i gael effaith cadarnhaol ar yr iaith Gymraeg.”

Ni chafodd argymhellion y ddogfen erioed eu mabwysiadu gan y Llywoedraeth, ac felly answyddogol yw statws y ddogfen hon. Serch hynny, mae Cynllun Datbygu Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig (dogfen uniaith Saesneg):

“5.9.143 All developments will have regard to the needs and the interests of the
Welsh language. Applicants will be expected to submit a Linguistic Impact
Assessment or Statement as part of a planning application. Guidance for determining
the effect of proposals on the Welsh language is contained within “Planning and the
Welsh Language: The Way Ahead (2005)”. The document suggests that where 25%
or more of the Community Council area speak Welsh then the language is part of the
social fabric. These areas are known as “linguistic sensitive areas”. More detailed
guidance will be produced as SPG

5.9.144 Where a negative effect on the Welsh language is demonstrated by a
Linguistic Assessment or Statement, consideration may be given in appropriate
instances to reduce or remove the impact. Such mitigation measures may include
phasing the development, provision of affordable housing for local needs, provision
of bilingual signs and support for the development of the language within the
community. A number of these mitigation measures are likely to be sought as
Planning Obligations (see policy GP3) or conditions to the planning permission.”

Gellid dadlau bod hyn yn well na’r sefyllfa bresennol a nodweddir gan ddiffyg mesurau i ddiogelu’r iaith yng nghyd-destun cynllunio.

Ffynhonellau:

Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin
Adroddiadau cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin
Araith gan Emyr Jones, Cwnsler i Banel Cyfraith Gyhoeddus Llywodraeth Cymru, i Gynhadledd ar yr Iaith Gymraeg yn Nhycroes, 2013.

No comments: