Ras
relay di-stop dros yr iaith Gymraeg o Senedd-dy Glyndŵr ym Machynlleth i
Aberteifi a gynhelir ar ddydd Sadwrn 15 Medi 2013 yw Ras Glyndŵr.
Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau neu glybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn talu £50 i noddi i
redeg 1km. Gall holl ddisgyblion yr ysgol neu holl
aelodau’r tîm pêl-droed y pentref redeg yr 1km yna. Ein bwriad yw gweld
miloedd o bobl yn rhedeg y ras yn ystod y dydd.
Bydd
baton wedi ei cherfio’n arbennig i’r ras yn cael ei throsglwyddo o law i
law wrth i redwyr dangos eu cefnogaeth i’r iaith. Nid ras i athletwyr
yw hi ond
ras dros yr Iaith Gymraeg gan bobl Cymru. Ei phwrpas yw
codi arian i fentrau Cymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith, dangos i’r
byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad a thynnu pobl at ei gilydd -
Cymry Cymraeg, di-Gymraeg a dysgwyr; Gwlad
a Thref a phob dosbarth, gallu a hil.
Mae’n Ras uchelgeisiol. Mae wedi ei seilio ar
ras y Korrika a ddechreuodd yng Ngwlad y Basg yn 1980 ac
sydd bellach yn denu tua 600,000 o redwyr a threfnwyr. Mae ras debyg yn
Llydaw (ân Redadeg) a nawr yr Iwerddon (ân Rith). Cymru fydd nesa gyda
Ceredigion yn arwain y ffordd gyda’r bwriad
fod y Ras yn tyfu i fod yn un cenedlaethol.
Buddion y Ras
Mae sawl budd arall i’r ras:
Codi arian: Buddsoddi’r elw o’r ras nôl i fudiadau er mwyn hyrwyddo’r
defnydd o’r Gymraeg.
Hybu’r iaith Gymraeg: Tynnu siaradwyr Cymraeg, Cymry Cymraeg nad
sy’n arferol rhan o’r ‘Pethe’, pobl di-Gymraeg a dysgwyr at ei gilydd.
Hybu Mudiadau Cymraeg:
Gyfle i gryfhau strwythur mudiadau drwy
godi proffil ac arian mewn digwyddiadau ar hyd y daith. Uno Cymru a'r
Gymraeg: Bydd y ras yn cysylltu ardaloedd Cymraeg a di-Gymraeg eu
hiaith, trefol a gwledig, breintiedig a difreintiedig gan ddangos
amrywiaeth dosbarth a chefndir siaradwyr Cymraeg.
Codi Proffil y Gymraeg:
Bydd yn denu sylw yn y cyfryngau Cymraeg
a Chymreig yn genedlaethol a lleol a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar y
we (clipiau ar y BBC, S4/Clic, YouTube ayyb). Bydd y ras yn ffordd
weledol a symbolaidd o ddangos fod y Gymraeg yn iaith ag iddi filoedd o
gefnogwyr.
Codi Proffil cymunedau:
Tynnu sylw at fudiadau a sefydliadau cymunedol a chryfder cymunedau ar hyd y daith
Hybu iechyd corfforol: Bydd yn hyrwyddo iechyd corfforol trwy gyfrwng
y Gymraeg ac yn ffordd o Gymreigio clybiau athletau a chlybiau chwaraeon eraill sy'n cymryd rhan.
Pwy sy’n cefnogi?
Mae
Cered Menter Iaith Ceredigion yn brif-bartner, yn trefnu a chydlynu’r
ras yn y Sir. Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg a chyngor cenedlaethol
Mentrau Iaith
Cymru hefyd yn cefnogi’r Ras.
Mae
cwmni nid-er-elw, Rhedadeg Cyf, eisoes wedi ei sefydlu a thrwyddi hi
bydd arian a cheisiadau grantiau’n cael eu gweinyddu. Bydd mentrau a
sector gwirfoddol
Ceredigion a Bro Ddyfi yn ymgymryd yn y gwaith o gydlynu a threfnu’r
ras gan weithio gyda phwyllgorau bro lleol i stiwardio a threfnu rhedwyr
yn eu hardal hwy. Bydd cannoedd o bobl yn gweithio o’u gwirfodd dros y
Ras a thros yr iaith Gymraeg.
Ariennir y ras gan yr arian a godir gan bobl i redeg a gan nawdd gan gwmnïau a sefydliadau.
Diddordeb?
Cynhelir cyfarfod cychwynnol
‘Ras Glyndŵr 2013’ ar
15 Tachwedd 2012, yn Theatr Felin-fach, rhwng 2 a 4 y prynhawn.
Yn ystod y cyfarfod bydd cyfle i ddysgu mwy am y ras, trafod y manylion, codi cwestiynau, a chytuno ar y ffordd ymlaen.
Cysylltwch â Gwenno Hywel neu Siôn Jobbins am fwy o fanylion.
Rhif ffôn: 01545 572356
e-bost: Gwenno.Hywel@ceredigion.gov.uk
4 comments:
any chance of a translation please??
Just for you! It's about a relay race from Machynlleth to Cardigan next year in aid of the Welsh language. Similar events have been going for a while in the Basque Country, Brittany and Ireland.
Good fun and a good cause. Hope to see you there!
It's based on the Basque 'Korrika'; Breton 'Redadeg' and Irish 'Rith' runs.
Fideo (in Welsh) explaining what it's about:
http://www.youtube.com/watch?v=c3__wxkA3fg
Syniad da
Post a Comment