Saturday 17 March 2012

Taro Naw - y Cyngor Sir a'r Whistleblower - Diweddariad


Hanes erchyll sy'n amlinellu sut methodd Cyngor Sir Caerfyrddin ag ymateb i gwynion am gamdriniaeth o berson gydag anabledd dysgu a'i driniaeth o'r 'whistleblower' Delyth Jenkins.

Darlledir y rhaglen ar S4C nos Fawrth, y 20fed o Fawrth, am 9 y.h.

Yn y cyfamser, trown ni at dudalennau Newyddion Sir Gâr, sef Prafda'r Cyngor Sir, lle gall dyn ddarllen stori o dan y penawd "Canmol y Cyngor am ofalu am oedolion".

Er syndod i neb sy'n gyfarwydd â'r Cyngor Sir, gwthododd wneud cyfweliad gan ychwanegu ei bod yn siomedig i'r BBC godi'r hanes unwaith rhagor. 

No comments: