Mae llawer iawn o bethau'n gyfrinachol ym Mhrydain - rhif ffôn y frenhines (oni bai eich bod yn gweithio i Rupert Murdoch), lleoliad sybs niwclear, ac yn y blaen. Pethau pwysig a sensitif, mae'n debyg.
Bydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gâr yn cwrdd ar 25 Gorffennaf i drafod pethau tra chyfrinachol hefyd, gan gynnwys cyfleusterau hamdden a thoiledau. Gwybodaeth "eithriedig" yw hon wrth gwrs, a bydd rhaid i'r cyhoedd adael y cyfarfod. Chaiff neb ar wahân i'r aelodau o'r bwrdd a'r uwch-swyddogion weld yr adroddiadau.
Pam hynny? Chawn ni ddim gwybod.
Dyma'r agenda:
8. NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 A 15 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.
OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
9. ADOLYGIAD GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU – ADFYWIO A HAMDDEN – CYNLLUN GWEITHREDU AR GYFER CYFLEUSTERAU HAMDDEN YR AWDURDOD.
10. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF YNGHYLCH SEFYLLFA TROSGLWYDDO CYFLEUSTERAU CYHOEDDUS GRADD 2.
2 comments:
Mae'n ymddangos, gan nod os gwybodaeth arall ar gael i ni, y cyhoedd budr, mae'r gair 'trosglwyddo' sydd o ddiddordeb.
Trosglwyddo i bwy, tybed? Cmmni preifat i'w rhedeg fel cyfleusterau cyhoeddus? Neu efallai eu trosglwyddo fel tameidiau gwerthfawr o dir?
Y cwestiwn: ym mha ffordd gall y cyhoedd wybod bod y prawf diddordeb cyhoeddus wedi'w weithredu yn gywir mewn materion cyfrinachol?
Hyd y gwn i, maen nhw'n bwriadu trosglwyddo'r cyfleusterau i gynghorau cymunedol.
Post a Comment