Amser maith yn ôl mewn gwlad bell bell i ffwrdd o'r enw Sir Gâr roedd dau fochyn bach am godi tai mewn pentre' bach. Ond druan â'r moch bach, doedd neb yn y pentre eisiau cael ystad o dai newydd.
"Dydyn ni ddim eisiau cymaint o dai newydd," meddai 500 o drigolion y pentre, y cynghorydd lleol a'r cyngor cymunedol. "Does neb yma'n gallu eu fforddio nhw, ac rydyn ni'n ofni bydd pobol sy ddim yn siarad ein hiaith ni'n mynd i brynu'r tai crand hyn", medden nhw.
Gwylltiodd pawb. Yna ysgrifennodd y moch bach chwedl arloesol i ddangos na fyddai'r tai newydd yn difrodi iaith y pentre'. Doedd neb yn credu'r moch bach.
Yna gofynnodd adran cynllunio'r Cyngor Sir i'r hen flaidd Bwrdd yr Iaith am ei farn. Fe wnaeth yntau chwythu a chwythu. "Dw i ddim yn hoffi'r cynllun hwn," meddai Blaidd y Bwrdd, "bydd e'n tanseilio'r iaith gymunedol."
Druan â'r hen flaidd. Doedd dim dannedd yn ei ben, ac roedd y Llywodraeth wedi penderfynu i'w roi i gysgu.
Gofynnodd yr adran cynllunio i'r hen flaidd unwaith eto. "Erbyn hyn, mae'r moch bach wedi bod yn garedig iawn a dweud wrthon ni faint yn union o dai maen nhw eisiau eu codi. Dim ond adeiladu 13 o dai y maen nhw nawr, ac yn ôl polisi'r Cyngor Sir sy'n seiliedig ar ganran o 20%-30% o dai fforddiadwy, mae'r moch bach wedi addo codi dau dŷ isel eu cost." Dyw'r adran cynllunio ddim yn dda mewn mathematig.
Fe wnaeth yr hen flaidd chwythu a chwythu a chwythu. "Caiff y datblygiad effaith ddrwg ar iaith y gymuned. Dw i ddim yn hoffi'r cynllun newydd chwaith," meddai.
Dyn penderfynol iawn yw pennaeth yr adran cynllunio, felly gofynnodd i'r hen flaidd am y tryddydd tro. "Gwranda, yr hen flaidd", meddai, " mae'r safleodd hyn yn rhan o'r Cynllun Datblygu Unedol."
"Yn wir?", atebodd yr hen flaidd. "Os felly, chaiff y Bwrdd ddim sylwi ar y peth, fel arfer." Sleifiodd ymaith a'i gynffon rhwng ei goesau.
Roedd pawb yn y pentre' bach yn drist iawn, ond aeth y moch bach i'r banc dan chwerthin.
Dim ond chwedl yw hon. Os ydych am ddarllen hanes sy'n wir yn erchyll, trowch at yr adroddiadau yma ac yma.
3 comments:
Blog gwych, elfen o hiwmor sydd yn cyfleu eironi a gwir rialtwch y sefyllfa. Hynny yw yr hyn sydd i fod amddiffyn yr iaith sy'n gwneud y cam mwyaf gwag tuag ati.
A fyddai modd defnyddio'r stori hwn ar gyfer ymgyrch genedlaethol? Rwy'n sicr yn gwybod byddai o ddiddordeb i Gymdeithas yr iaith yn y dyfodol i greu rhyw brotest actiol er mwyn gwrthwynebu?
Diolch am dy sylwadau calonogol, Cymro i'r Carn. Byddai, wrth gwrs. Rwy i'n fodlon helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf.
Iawn gwych nai gyfeirio dolen y blog ymlaen i Senedd y Gymdeithas i drafod gweithred :)
Post a Comment