Showing posts with label sir gâr cynllun iaith cynllun datblygu lleol. Show all posts
Showing posts with label sir gâr cynllun iaith cynllun datblygu lleol. Show all posts

Tuesday, 12 July 2011

Cynllun Iaith Sir Gâr - mwg a drychau

Cyhoeddodd Cyngor Sir Gâr ei gynllun iaith newydd ar gyfer y cyfnod 2011-2014 yn ddiweddar. Nod y cynllun yw trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod nhw'n gyfartal, a chafodd polisi'r Cyngor ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith. Mae'n swnio'n dda, felly, gyda llu o eiriau cadarnhaol - mae yna sôn am strategaeth, gwella gwasanaethau, datblygu, hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg, cydraddoldeb, gweledigaeth ac yn y blaen.

Dyfodol llachar yn ôl y Cyngor, ond beth am y gorffennol? "Ar y cyfan, rydyn ni'n hapus â'r ffordd y cafodd y Cynllun diwethaf ei roi ar waith, gan i ni weld cynnydd mewn rhai meysydd. Er hynny, rydym yn ymwybodol o feysydd eraill y mae angen eu gwella." Pa feysydd? Mae'r cynllun yn ddistaw.

O dan Ddeddf yr Iaith mae'n rhaid i'r Cyngor Sir gyhoeddi adroddiad blynnyddol am ei gynllun iaith. Daeth y cynllun diwethaf i ben ym mis Mawrth, ond hyd yn hyn, does dim adroddiad blynyddol ar gyfer 2010-2011 ar gael. Rhaid troi at adroddiad 2009-2010.

Fel arfer, mae periaint gormodiaith y cyngor yn mynd ati i chwythu geiriau hyfryd fel hadau dant y llew dros yr adroddiad. "Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau fod y ddarpariaeth o ran dysgu a gloywi iaith yn effeithiol (t4)".Mae yna sôn am strategaeth, gwella safonau ac ychydig iawn o ffeithiau nes i ni gyrraedd "Dangosydd Iaith 3 - Nifer a % y staff a gafodd eu hyfforddi yn y Gymraeg at lefel benodol o gymhwyster".

Enw’r cwrs                               Nifer                     Canran%
Ymwybyddiaeth Iaith                  28                             0.3%

Cwrs preswyl Glan-y-fferi           20          

Datblygu’r Iaith – llafar                23

Datblygu’r Iaith – ysgrifenedig      14

Cymraeg yn y gweithle                 48

CYFANSWM Y DYSGWYR   133                           1.7%


Roedd y Cyngor yn cyflogi dros 9,200 o bobl (ac eithrio athrawon a staff ysgolion) bryd hynny. Cafodd 133 hyfforddiant yn y Gymraeg.Yn ôl yr adroddiad, roedd 2,418 o'r staff yn gallu siarad Cymraeg - dim ond 26% mewn sir lle mae 50% yn siarad Cymraeg.

Polisi anonest ac anghredadwy yn y bôn yw cynllun iaith y cyngor, ond yn waethaf oll wrth gwrs yw ei bolisi cau ysgolion pentrefi a'r cynlluniau newydd i godi mwy na 11,000 o dai ym mhob rhan o'r sir, polisi sy'n mynd i arwain at seisnigo'r sir o fewn deg mlynedd.