Monday 4 March 2013

Llu o bobl am ffoi rhag y Gymraeg

Diweddariad 4 Mawrth

Yn ôl y sôn cawn ni erthygl arall eto yn y Journal yr wythnos hon. Mae grŵp o wrthwynebwyr yn honni nad yw Cwmni Sbectrwm sy'n arwain y cyfarfod ar 7 Mawrth yn annibynnol, ac maent wedi datgladdu astudiaeth o Ganada sy'n dod i'r casgliad bod dwyieithrwydd yn niweidiol.

Mae yna astudiaethau ar gael hefyd sy'n dweud bod yfed potelaid o wisgi a smoco pecyn o ffags bob dydd yn llesol, hyd y gwn i.

__________________________________________________________

Er na fu'r un gair am sgandal treuliau Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin i'w weld yn nhudalennau'r Carmarthen Journal yn ddiweddar, cafodd darllenwyr y papur ffrwd o erthyglau am benderfyniad llywodraethwyr Ysgol y Ddwylan yng Nghastell Newydd Emlyn i droi'r ysgol yn un Gymraeg.

Y gwir amdani yw nad oes fawr o ddim wedi digwydd ers i'r llywodraethwyr gyhoeddi eu penderfyniad ym mis Ionawr. Y ffeithiau yw bod yr ysgol am gael gwared ar y ffrwd Saesneg dros gyfnod o bum mlynedd ar ôl ymgynghoriad eleni. Dyna i gyd.

Er gwaethaf diffyg llwyr o newyddion am y peth, mae'r papur yn gwneud ei orau glas i godi twrw ac arllwys petrol ar y tân. Yn y rhifyn diwethaf dyfynnir rhywun di-enw yn rhagweld y bydd llu o bobl yn symud o'r ardal os na fydd ffrwd Saesneg ar gael mwyach. Gallai hyn fod â goblygiadau dirfawr, meddai Mr neu Mrs Anhysbys.

A fydd rhaid i'r ymsefydlwyr gwynion harneisio eu ceirt a ffoi'n ôl i Fognor, Bolton a Birmingham rhag y brodorion cyntefig a'u hiaith chwerthinllyd? Wir?

Am ryw reswm neu'i gilydd, doedd dim lle yn y papur hyd yn hyn i rieni sy'n cefnogi'r cynllun.

Mae'r ysgol ei hun wedi trefnu cyfarfod agored gydag arbenigwyr mewn addysg ddwyieithog yr wythnos hon. Doedd dim sôn am hynny yn y Journal, wrth gwrs. Tybed a fydd Mr a Mrs Anhysbys yno?

6 comments:

  1. Gallwn ond gobeithio......

    ReplyDelete
  2. Journal wythnso ddwethaf ar un stori ond am rheini pryderus Llandeilo parthed polisi addysg sir gar ar gyfer ysgol newydd dyffryn tywi. Codi bwganod a rhagfarn

    ReplyDelete
  3. Pam bod pryderon dilys gan rieni yn cael ei drin fel codi bwganod ac mai dim ond barn y rhieni dosbarth canol Cymraeg yn destun pryder.

    ReplyDelete
  4. "datgladdu astudiaeth o Ganada sy'n dod i'r casgliad bod dwyieithrwydd yn niweidiol"

    Gair da ydy "datgladdu" = make up/invent/exhume yn ôl eich chwant?

    Ers pryd mae unrhyw ieithydd/seicolegydd/arbenigwr werth ei halen wedi canfod bod dwyieithrwydd yn niweidiol? Dwli o'r radd flaenaf!

    ReplyDelete
  5. Bilingualism only works when both languages are given equal status in our schools . Not where parents who opt for English Stream are told that they children will be taught separately and will not associate with the rest of the school - that's a quote from a head teacher . Welsh is becoming the language of education not the language of life , we are making Welsh not fun but a necessary "evil" which then translates to English on the yard , playing fields , Facebook , twitter etc etc Ireland made the same mistake and how strong is Gaelic now
    Ps I am Welsh , welsh speaking & and voted Plaid more times that Mark James has had champagne suppers

    ReplyDelete
  6. You must have started voting at a very early age Anonymous|

    ReplyDelete

Oes rhaid i fi ddweud? Dim ond synnwyr cyffredin sy ishe
Standard common sense rules apply. Need I explain?